Mae鈥檙 ymchwilwyr, gan gynnwys yr Athro Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyhoeddi papur sy'n ymchwilio i鈥檙 "tonnau gwres cyfansawdd" hyn yn .
Diffinnir ton wres fel cyfnod estynedig o dywydd poeth sydd y tu hwnt i'r amodau disgwyliedig yn yr ardal ar yr adeg honno o'r flwyddyn.
Wrth i donnau gwres sy鈥檔 torri pob record amharu ar systemau d诺r, ynni a bwyd byd-eang, bu i鈥檙 astudiaeth ddadansoddi 796 o fasnau afonydd yn yr Unol Daleithiau a chanolbarth Ewrop i ddarganfod beth sy鈥檔 digwydd.
Trwy gyfuno data am ansawdd d诺r 芒 model dysgu deallusrwydd artiffisial, bu iddynt ddarganfod bod achosion o donnau gwres cyfansawdd wedi cynyddu tua 0.40 pob degawd ers y 1980au. Ddeugain mlynedd yn 么l, roedd yr achosion hyn yn digwydd llai nag unwaith y flwyddyn ar gyfartaledd. Heddiw, maent yn digwydd fwy na dwywaith y flwyddyn, sy'n golygu eu bod yn digwydd tua thair gwaith yn amlach.
Mae'r duedd hon yn cyd-fynd 芒 dwys芒d yn nifer y tonnau gwres mewn afonydd, sydd wedi cynyddu mewn amlder (114%), hyd (148%) a dwyster (95%) rhwng 1981鈥�1990 a 2010鈥�2019, gan newid yn llawer cyflymach na thonnau gwres atmosfferig.
O gymharu 芒 thonnau gwres ynysig mewn afonydd, mae tonnau gwres cyfansawdd yn achosi cynnydd ychwanegol o 16% yn nhymheredd y d诺r a gostyngiad pellach o 2.9% mewn ocsigen toddedig. Mae'r astudiaeth yn rhybuddio y bydd 98.5% o donnau gwres mewn afonydd yn cyd-ddigwydd 芒 thonnau gwres yn yr atmosffer erbyn 2100 mewn senario o allyriadau uchel.
Meddai鈥檙 Athro Iestyn Woolway, 鈥淢ae canfyddiadau鈥檙 astudiaeth hon yn tynnu sylw at y bygythiadau cynyddol o donnau gwres cyfansawdd i ecosystemau d诺r croyw a鈥檙 angen i鈥檞 cynnwys mewn asesiadau risg d诺r yn y dyfodol. Mae recordiau tymheredd byd-eang yn parhau i gael eu torri, gan ddwys谩u risgiau tonnau gwres i iechyd y cyhoedd, seilwaith ynni ac econom茂au byd-eang. Mae tonnau gwres atmosfferig yn digwydd yn amlach, yn para'n hwy ac yn fwy dwys ledled y byd.
鈥淢ae tystiolaeth ddiweddar, gan gynnwys ton wres ddwys 2024 ar draws gorllewin yr Unol Daleithiau, yn dangos potensial cynyddol tonnau gwres atmosfferig i waethygu鈥檙 risg o danau gwyllt ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Wrth i gynhesu hinsawdd barhau, rhagwelir y bydd tonnau gwres yn yr atmosffer yn cynyddu ymhellach, gan wneud tonnau gwres yn nodwedd gynyddol o risgiau hinsawdd yn y dyfodol. Mae afonydd yn sensitif iawn i newid hinsawdd. Os bydd afonydd yn cynhesu鈥檔 ormodol, gall hyn fygwth bywyd dyfrol, amharu ar fetabolaeth ecosystemau a gwaethygu llygredd cemegol.
Mae鈥檙 sefydliadau eraill sy'n rhan o'r astudiaeth yn cynnwys Prifysgol Hohai, Nanjing, y Weinyddiaeth Adnoddau D诺r, Tsieina, Prifysgol Yangzhou, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina, Academi Gwyddorau Tsieina, University of California, UDA a Phrifysgol Utrecht, yr Iseldiroedd.
Cyfrannodd pob awdur yn gyfartal at y gwaith.