Lleoliad
Llawr gwaelod Prif Adeilad y Celfyddydau.
Oriau Agor
- Dydd Llun - Gwener: 9yb - 2:30yp
Mwy
Archebwch rwan
- Ffon: 01248 388686
- Ebost: teras@bangor.ac.uk
Lolfa’r Teras
Mae cwsmeriaid yn canmol Teras yn rheolaidd am ei awyrgylch cain, y gwasanaeth cyfeillgar ac ansawdd uchel y bwyd.
Rydym yn gweini ystod eang o de Novus dail rhydd – beth am ddod i roi cynnig ar rywbeth newydd, a gan fod pob pot o de’n dod gyda'i amserydd te ei hun, gallwch sicrhau bod eich paned mor gryf ag y dymunwch!
Mae Lolfa Teras yn cael ei rhedeg gan Adran Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor ac mae hefyd ar gael i'w llogi'n breifat gyda'r nos.