Pwy yw Bangoriaid Llundain?
Sefydlwyd Bangoriaid Llundain ym 1901 fel cangen Llundain o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru gynt, a cholegau addysg uwch cysylltiedig.
Beth mae Bangoriaid Llundain yn ei wneud?
Rydym yn cynnig rhwydwaith cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr yn Llundain a de ddwyrain Lloegr i gynnal cysylltiadau â graddedigion Prifysgol Bangor eraill. Rydym yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i ymweld â thirnodau Llundain, dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru yn Llundain, cynnal cysylltiadau â Phrifysgol Bangor a rhwydweithio â grwpiau cyn-fyfyrwyr prifysgolion eraill Cymru.
Mae ymweliadau cofiadwy wedi cynnwys Kew Gardens, Greenwich Old Royal Naval College, the Globe Theatre, Handel-Hendrix House a thaith ysbryd dywys o amgylch dinas Llundain. Unwaith y flwyddyn, ym Mis Ebrill, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i aelodau gyda sgwrs gan aelod neu siaradwr allanol, ac rydym yn cynnal nosweithiau tafarn anffurfiol drwy gydol y flwyddyn.
Mae’n swnio'n wych! Sut ydw i’n ymuno?
Syml – anfonwch e-bost atom a byddwn yn ateb gyda gwybodaeth ymuno lawn: LondonBangorians@gmail.com
Calendar of events for 2026
Dydd Sadwrn, Ebrill 25 – Cinio a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Islington
Dydd Mercher, Mai 13 – Noson Tafarn yn ger Euston a King's Cross, o 7pm (dim angen bwcio o flaen llaw, dim ond troi i fyny os fedrwch chi)
Dydd Sadwrn, Mehefin 13 – Ymweliad i , Queen Elizabeth Park, Hackney Wick
Canol yr Wythnos, mis Gorffennaf – Noson Tafarn, i'w gadarnhau
Canol yr Wythnos, mis Awst – Noson Tafarn, i'w gadarnhau
Dydd Sadwrn, Medi 5 – Trip i
Dydd Sadwrn, Hydref 17 – Ymweldiad i