Rheoli Risg ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i reoli risg mewn modd cyfrifol a thryloyw er mwyn cefnogi ei chenhadaeth academaidd, ei chynaliadwyedd hirdymor, a'i rôl ddinesig yn ehangach. Mae rheoli risgiau’n effeithiol yn ein helpu i amddiffyn ein myfyrwyr, ein staff, ein partneriaid a’n henw da, gan alluogi arloesedd a galluogi penderfyniadau gwybodus i gael eu gwneud ar draws y Brifysgol.
Deallwn y gall risg gynrychioli bygythiad a chyfle, ac rydym yn cydnabod bod rhywfaint o risg yn hanfodol wrth ddarparu addysgu ac ymchwil ac wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae’r dull yr ydym yn ei ddilyn yn sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi'n gynnar, eu hasesu'n gyson a'u rheoli mewn modd cymesur, fel y gellir mynd ar drywydd cyfleoedd yn hyderus a lleihau effeithiau andwyol posibl.
Ym Mhrifysgol Bangor mae rheoli risg wedi'i ymgorffori’n rhan o’r gwaith beunyddiol o gynllunio a gwneud penderfyniadau. Caiff risgiau strategol a gweithredol eu monitro drwy fframwaith strwythuredig sy'n cysylltu risgiau lleol yn y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol â Chofrestr Risgiau Strategol Gorfforaethol y Brifysgol yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn galluogi'r Brifysgol i gadw trosolwg o'r risgiau sydd fwyaf arwyddocaol i'w hamcanion, gan sicrhau bod risgiau'n cael eu rheoli ar y lefel briodol.
Mae llywodraethiant cryf yn sail i'r fframwaith hwn. Cyngor y Brifysgol sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am reoli risg, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Bwrdd Gweithredol, a throsolwg arbenigol drwy'r Panel Sicrwydd Risg. Gyda'i gilydd, mae'r cyrff hyn yn rhoi sicrwydd bod risgiau'n cael eu rheoli'n weithredol, bod camau rheoli effeithiol ar waith, a bod materion sy'n dod i'r amlwg yn cael eu nodi a'u datrys.
Mae ein dull yn cyd-fynd â safonau llywodraethu addysg uwch a disgwyliadau rheoleiddiol y Deyrnas Unedig, a chaiff ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gadarn, yn gymesur ac yn addas at y diben. Drwy’r fframwaith hwn, mae Prifysgol Bangor nid yn unig yn ceisio lleihau ansicrwydd, ond hefyd yn ceisio meithrin sefydliad gwydn, sy’n cael ei lywodraethu’n dda ac a all ffynnu mewn amgylchedd sy’n newid.
Dolen i'r polisi
Dolen i'r feddalwedd ar gyfer Staff y Brifysgol
Cofrestrwch ar y cyrsiau drwy borth Hunanwasanaeth Gweithwyr iTrent, drwy ddewis y tab ‘Dysgu’.