Darganfyddwch y cwrs Coedwigaeth i chi
Gwylio - Gardd Fotaneg Treborth
Trawsgrifiad fideo: Gardd Fotaneg Treborth
Yng Ngardd Fotaneg Treborth, ychydig funudau o ganol Bangor, mae rhywbeth eithaf prin.
Mae hwn yn labordy byw, lle mae addysgu, ymchwil a chymuned yn dwad at ei gilydd mewn un lleoliad rhyfeddol.
Mae’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae coetir arfordirol Treborth yn un o'r cynefinoedd mwyaf nodedig yng Nghymru.
Mae'n safle lle mae myfyrwyr yn dysgu am ecosystemau trwy gamu i mewn iddynt.
Bioleg, cadwraeth, Gwyddorau amgylcheddol, Coedwigaeth, a hyd yn oed cysylltiadau gyda meddygaeth, mae Treborth yn cefnogi addysgu ar draws ystod eang o bynciau.
Yma, mae dysgu yn ymarferol, sef ‘hands on’
Mae hefyd yn gyfleuster ymchwil gweithredol, sy'n cefnogi gwaith sy'n bwysig yn lleol ac yn fyd-eang.
Y tu mewn i'r tai gwydr trofannol, dach chi’n medru gweld rhywogaethau o bedwar ban y byd, tra y tu allan, mae casgliadau arbenigol yn cynnwys gardd perlysiau sy'n cael ei datblygu mewn cydweithrediad efo addysgu meddygol Prifysgol Bangor.
Mae'r ardd yn gynnwys 45 erw, yn llawn casgliadau a chynefinoedd amrywiol.
Ar draws y DU, mond chydig iawn o brifysgolion sy gan gyfleuster fel hyn ac mae Treborth yn un o ddim ond llond llaw yng Nghymru.
Y peth sy'n neud i Dreborth bod yn arbennig ydy'r bobl. (un o bethau?)
Mae cymuned brwd o wirfoddolwyr, cefnogwyr lleol a myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr. Mae profiad yn cael ei rannu rhwng cenedlaethau yma, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhannu pob dydd.
Mae yna bob amser rhywbeth yn digwydd yn Nhreborth. Gwerthu planhigion tymhorol, prosiectau cadwraeth newydd ac o bryd i'w gilydd... gwartheg yn crwydro trwy'r tir cyfagos.
Dan arweiniad arbenigwyr angerddol a chefnogaeth gwirfoddolwyr ymroddedig, mae Treborth yn parhau i dyfu fel canolfan ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.
I fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, nid cyfleuster yn unig yw hwn.
Cyfle i addysgu mewn ffordd gwahanol.
Cyfle i ymchwilio yn y byd go iawn.
Cyfle i fod yn rhan o rywbeth sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Prifysgol Bangor, Yr amgylchedd yw eich addysg yma.
Rhoddodd y lleoliad gwaith gipolwg gwych i mi ar waith ymgynghori amgylcheddol flaenllaw a llwyddais i ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau yr oeddwn wedi'u dysgu yn fy nghyrsiau gyda sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Bu'r lleoliad gyda CNC yn brofiad hynod werthfawr; cefais gyfleoedd i roi’r hyn a ddysgais yn fy ngradd ar waith, a bydd y profiad a gefais yn help imi ym mlwyddyn olaf fy ngradd.
Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.
[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld
[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.
[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,
[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir!
[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol
[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig.
[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.
[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod
[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).
[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor.
[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.
[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.
[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.
[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.
[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...
[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.
[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.
[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.
[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.
[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio
[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.
[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.
Cymryd Rhan Mewn Gwersylloedd Coedwigaeth
Fel myfyriwr israddedig mewn Coedwigaeth, efallai y cewch gyfle i gymryd rhan mewn Gwersylloedd Ieuenctid Coedwigaeth arloesol – gwersyll preswyl unigryw wedi’i gynllunio i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gweithwyr proffesiynol ym maes coedwigaeth. Nod y gwersylloedd hyn yw mynd i’r afael â phrinder sgiliau cynyddol y DU yn y diwydiant coedwigaeth drwy ymgysylltu â phobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn y sector.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Coedwigaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Coedwigaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Coedwigaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Coedwigaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Coedwigaeth
Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil coedwigaeth ryngwladol ac mae gennym enw rhagorol am ein gweithgareddau ymchwil. Mae ein myfyrwyr a'n staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y (CATIE), y (CIFOR), a'r (ICRAF).
Mae ein tîm ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys pob agwedd ar ddisgyblaeth coedwigaeth. Mae gennym raglenni ymchwil gweithredol sy'n ymchwilio i goedwigoedd boreal a throfannol, a phopeth a geir rhyngddynt. Mae ein gwaith yn ymwneud â choedwigoedd ac addasu i newid hinsawdd, lliniaru, datgoedwigo, bioamrywiaeth, adfer ar ôl trychineb, diogelwch bwyd, amddiffyn rhag llifogydd, cylchu maetholion, lles dynol, cadwraeth a swyddogaeth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.