Darganfyddwch gwrs yn Y Gyfraith i chi
Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, arwain a newid bywydau gyda'n gilydd
Trawsgrifiad fideo: Astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd wrth fwrdd yng Nghaffi Cegin yn dal beiro gyda phapur ar y bwrdd yn chwerthin ac yn sgwrsio â darlithydd a myfyriwr arall. Dau fyfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland yn sgwrsio ac yn gwenu ar ei gilydd gyda llyfrau a gliniaduron ar y ddesg tra bod myfyriwr arall yn brysur yn ysgrifennu ar ddesg yn y cefndir.
[TROSLAIS] ‘da ni’n gymuned sy’n llywio cyfiawnder hefo’n gilydd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithydd yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Dr Hayley Roberts, Darllenydd mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol.
[TROSLAIS] Ein maint ydi un o’n cryfderau. Felly mi gewch chi’r profiad prifysgol mawr ond mewn lleoliad sy’n teimlo’n gefnogol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r camera'n symud ar draws Ystafell y Ffug Llus o'r gynulleidfa gyda myfyrwyr yn eistedd yn gwylio dau fyfyriwr arall yn ymarfer ar gyfer dadl yn y llys.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gymaint o gyfleoedd anhygoel fel ffug lys, clinig y gyfraith ac opsiynau i astudio dramor.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad â chamera o flaen cefndir coch mae testun yn ymddangos yn y gornel chwith isaf yn darllen Holly Jones, Myfyriwr Israddedig LLB y Gyfraith.
[TROSLAIS] Mae’r gymuned yma ym Mangor yn wych - tu fewn a thu allan i’r Gymdeithas Gyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cynnig digwyddiadau cyffrous yn aml ac mae’r sîn chwaraeon yma’n wych hefyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tudalennau mewn llyfryn yn cael ei droi ar y bwrdd. Myfyrwyr yn sefyll yn gwenu gyda llyfrau yn y cefndir gyda myfyrwyr arall yn eistedd ar y bwrdd yn darllen.
[TROSLAIS] Mae’r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a’r athrawon yn wych yma ac mae’r gefnogaeth maent yn eu gynnig yn wych hefyd.
[TROSLAIS] Mae’r grwpiau tiwtorialau Cymraeg yn dda iawn ar gyfer dal i fyny hefo myfyrwyr Cymraeg arall ac hefyd i ddefnyddio’r iaith wrth astudio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel gwaelod ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.
[TROSLAIS] Ym Mangor, mi gewch chi gyfle i roi’r pethau ‘da ‘chi’n dysgu yn y dosbarth ar waith.
[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn unigryw oherwydd ei leoliad gwych.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy Stryd Fawr Bangor gydag amryw o siopau a chaffis yn y cefndir.
[TROSLAIS] Wedi’i lleoli yng nghanol Stryd Fawr Bangor, mae ein myfyrwyr yn gweld amryw o gleientiaid ac achosion wahanol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae bod yn rhan o glinig y gyfraith wedi bod yn brofiad anhygoel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Ruth Roberts, myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Dwi wedi gwella fy sgiliau drwy weithio hefo cleientiaid sy’n aml o dan straen.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae rhai o’r sgiliau dwi wedi dysgu, fyswn i byth wedi eu dysgu yn y dosbarth yn unig.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Myfyrwyr a darlithwyr yn y clinig cyfreithiol yn gwneud nodiadau ar gyfrifiaduron.
[TROSLAIS] Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, felly ‘da chi’n gwybod fe gewch chi eich dysgu gan unigolion lle mae'u hymchwil yn llywio polisi'r llywodraeth, ac yn cael effaith go iawn ar bobl cyffredin, ac yn gwneud gwahaniaeth ledled y byd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Owain Evans, Myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Diolch i'w dysgu nhw a'u cysylltiadau efo'r diwydiant, dwi wedi cael cip gwirioneddol ar fyd y gyfraith - ac wedi cael sawl cyfle gwych o ganlyniad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Holly Jones yn siarad â'r camera tu blaen i gefndir coch.
[TROSLAIS] O holi cwestiynau mewn Cystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid i fod yn hawliwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth Ffug.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer yn y ffug llus. Mae'r camera yn symud o'r dde i'r chwith gydag un myfyriwr yn edrych ar y camera yn dal ffolderi yn gwisgo gwisg gyfreithiol. Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae astudio’r gyfraith ym Mangor yn agor drysau i gymaint o opsiynau gyrfa.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Fideo stoc o swyddfa fawr yn y ddinas. Llyfrau cyfreithiol ar y bwrdd.
[TROSLAIS] O gyfreithwyr lleol, i gwmnïau dinas a siambrau bargyfreithwyr, i rolau cyfiawnder cymdeithasol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cyflogwyr mewn ffair yrfa gyda baneri yn y cefndir tra bod myfyrwyr yn siarad gyda'r cyflogwyr.
[TROSLAIS] Mae ein cysylltiadau cryf yn rhoi mynediad i chi i interniaethau, lleoliadau, siaradwyr gwadd a ffair gyrfaoedd fywiog.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Olygfa o Brif Adeilad y Brifysgol. Fflag Cymru yn hedfan yn y gwynt.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gysylltiadau cryf gyda chwmnïau yn yr ardal hefyd a’r opsiwn i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg .
[TROSLAIS] Mae hyn yn fantais enfawr i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn eu gyrfa yn lleol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Fel rhan o fy ngradd, dwi wedi bod ar leoliad gwaith mewn sefydliad 'not for profit'.
[TROSLAIS] Mae wedi rhoi cysylltiadau gwerthfawr i mi o fewn y gymuned leol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Ym Mangor, nid addysgu’r gyfraith yn unig yda ni -'da ni’n creu cyfleoedd, yn adeiladu'r dyfodol ac yn siapio arweinwyr cyfreithiol yfory.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, Arwain a Newid Bywydau, Gyda'n Gilydd.
Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw’r asesiad canolog ar gyfer unrhyw un sydd am gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhan o lwybr pedwar cam i ddod yn gyfreithiwr.
Mae holl raddau LLB Bangor yn cynnwys paratoad at arholiadau cymhwyso cyfreithwyr. Mae hyn yn golygu bod ein graddau yn cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll arholiad cymhwyso cyfreithwyr (SQE). P’un a ydych yn dewis llwybr SQE ai peidio, mae ein holl raddau LLB yn mynd ymhellach, trwy gyfuno’r elfennau hyn i’ch paratoi at sefyll yr arholiad cymhwyso cyfreithwyr ag astudiaeth feirniadol ac academaidd o’r gyfraith i ddeall rhan y gyfraith mewn cymdeithas a mynd i’r afael â materion cyfreithiol cyfoes. Darperir hyn drwy'r modiwlau craidd a dewisol sydd ar gael ar gyrsiau gradd LLB Bangor.
O fis Medi 2021, yr arholiad cymhwyso cyfreithiwr (SQE) yw’r asesiad newydd y mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno cymhwyso fel cyfreithiwr lwyddo ynddo. Mae hyn yn disodli'r radd gymhwyso yn y gyfraith a'r cwrs ymarfer cyfreithiol. Mae'r broses o gymhwyso fel bargyfreithiwr yn aros yr un fath.
Mae dwy elfen i'r SQE, sef SQE1 ac SQE2. Rhaid cwblhau SQE1 cyn SQE2.
Mae dwy elfen i SQE1, sef FLK 1 ac FLK2. Mae'r ddwy elfen yn rhoi eich dealltwriaeth o 'wybodaeth gyfreithiol weithredol' ar brawf, trwy 180 o gwestiynau amlddewis wedi eu rhannu'n ddwy sesiwn.
Mae FLK 1 yn profi'r meysydd pwnc isod;
- Cyfraith ac Ymarfer Busnes
- Datrys Anghydfodau
- Contract
- Camwedd
- System Gyfreithiol Cymru a Lloegr.
- Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol a Chyfraith yr UE a Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae FLK 2 yn profi'r meysydd pwnc isod;
- Ymarfer Eiddo
- Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
- Cyfrifon Cyfreithwyr
- Cyfraith Tir
- Ymddiriedolaethau
- Cyfraith ac Ymarfer Troseddol
Mae Moeseg ac Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu cynnwys mewn modd 'treiddiol' ar draws FLK 1 ac FLK 2, sy'n golygu y gall godi mewn unrhyw gwestiwn.
Er mwyn llwyddo SQE1, rhaid cael marc llwyddo yn FLK1 a FLK2. Cynhelir yr asesiadau ym mis Ionawr a mis Gorffennaf bob blwyddyn.
Mae SQE2 yn asesiad seiliedig ar sgiliau sy'n cynnwys y sgiliau canlynol.
- Cyfweliad cleient a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
- Eiriolaeth
- Dadansoddiad achos a mater
- Ymchwil gyfreithiol
- Ysgrifennu cyfreithiol
- Drafftio cyfreithiol
Ym mhob un o raddau LLB Bangor, caiff myfyrwyr gyfle i brofi a dysgu'r sgiliau hyn ar draws y modiwlau craidd.
Ein hargymhelliad yw bod myfyrwyr, ar ôl cwblhau LLB Bangor, yn dilyn cwrs paratoi SQE byr, i baratoi at natur benodol arholiadau SQE1 ac SQE2.
I gael rhagor o wybodaeth am yr SQE, ewch i wefan y
Ystafell Ffug lys
Beth yw ffug lys?
Os ydych am astudio'r Gyfraith efallai eich bod wedi clywed am ffug lys, ond a ydych yn gwybod beth yw ffug lys? Ffug lys yw llys barn ffug lle mae dwy ochr yn dadlau pwynt cyfreithiol o flaen rhywun sy’n gweithredu fel barnwr. Bydd y barnwr wedyn yn penderfynu pwy yw'r enillydd unwaith y bydd wedi clywed cyflwyniadau gan y ddwy ochr.
Os ydych yn ystyried bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr mae sgiliau ffug lys yn rhai pwysig i'w cael. Mae astudio LLB yn y Gyfraith ym Mangor yn rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau ffug lys yn ein ffug lys ar y campws.
Mae cymryd rhan mewn ffug lys yn ffordd wych o ennill y sgiliau rydych eu hangen i fod yn gyfreithiwr. Mae'n helpu i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, sgiliau dadansoddi a sgiliau dehongli. Bydd ymarfer mewn ffug lys yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus ac adeiladu eich sgiliau personol o siarad cyhoeddus. Mae ymryson yn galluogi myfyrwyr i;
- archwilio, dadlau a beirniadu meysydd a dadleuon cymhleth yn y gyfraith
- gwella eu sgiliau eiriolaeth, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu
- gweithio’n agos gyda chyfoedion • ymarfer ymgysylltu â'r fainc a dod yn fwy hyderus wrth ddadlau eu hachos.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Beth yw gradd LLB?
Mae'n debyg mai gradd LLB yw'r math mwyaf cyffredin o radd israddedig yn y gyfraith. Mae'n cael ei hastudio gan israddedigion sy'n dymuno ymarfer yn y gyfraith yn ogystal â'r myfyrwyr hynny sy'n mynd i mewn i broffesiynau eraill nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn y pen draw. Mae graddau LLB yn cael eu hystyried yn raddau trwyadl sy'n hyfforddi graddedigion at amryw o gyfleoedd o ran gyrfa.
Mae'r LLB yn radd gymhwysol dros dair blynedd yn y gyfraith sy'n eich arwain at y cam nesaf o hyfforddiant yn y proffesiwn cyfreithiol. Cewch ddilyn llwybr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE) ar gyfer cyfreithwyr neu'r BPTC ar gyfer bargyfreithwyr.
Bydd rhaglen LLB yn edrych ar wahanol feysydd o’r Gyfraith, gan gynnwys Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Tir a’r Deyrnas Unedig, Cyfraith Undeb Ewrop a Brexit. Fel rhan o'ch gradd LLB cewch ddewis modiwlau dewisol mewn meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt ac y gallech fod am eu dilyn yn y dyfodol. Ym Mangor mae gan ein hacademyddion amrywiaeth o ddiddordebau o fewn y Gyfraith sy'n cynnwys pynciau megis Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Chwaraeon, Cyfraith y Cyfryngau, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith a Thechnoleg, Cyfraith Amgylcheddol a Bywyd Gwyllt Mewn Perygl a Chyfraith Ryngwladol.
Mae hyn yn golygu bod ein graddau’n cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (‘SQE’).
Yn ogystal â chynnig sylfaen gadarn yn y gyfraith, mae graddau LLB Bangor hefyd yn adlewyrchu amgylchedd cyfreithiol yr 21ain ganrif trwy ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau cyfreithiol sydd eu hangen yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yng ngweddill y byd.
Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (2022), cafodd Ysgol y Gyfraith ym Mangor sgôr boddhad myfyrwyr ardderchog o 84% yn y Gyfraith, sy’n adlewyrchu’r gefnogaeth ardderchog a roddir i fyfyrwyr ym Mangor ynghyd â’r dosbarthiadau llai o faint o’u cymharu ag ysgolion y gyfraith mwy ym Mhrydain.
Os hoffech astudio pwnc arall yn ychwanegol at y Gyfraith, ond eich bod hefyd am sicrhau eich bod yn astudio Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith, dylech ystyried un o’n cyrsiau gradd 'Y Gyfraith gyda phwnc arall'.
Gweithio gyda'r gymuned
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:
Ein projectau diweddar
Gweld MwyEin Hymchwil o fewn Y Gyfraith
Mae ein darlithwyr yn ymchwil-gynhyrchiol. Mae sawl aelod staff wedi gweithio'n flaenorol fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon. Mae hyn yn golygu bod eich holl ddarlithwyr yn meddu ar wybodaeth arloesol yn eu meysydd pwnc. Pam fod hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i fywiogi dysgu a rhoi'r syniadau diweddaraf i chi yn y dosbarth.
Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol mewn meysydd fel Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.