Drwy gydol mis Tachwedd, bydd CAL:ON Cymru yn cynnal cyfres o weithdai Dysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb ar draws Cymru. Fe鈥檜 lluniwyd i helpu athrawon gyflwyno addysg lythrennedd o ansawdd uchel.
Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond i ysgolion a ymrwymodd i fod yn rhan o鈥檔 treialon fydd y gweithdai ar gael. Y rhain fydd ein cyfle cyntaf i roi prawf ar ein hadnoddau Dysgu Proffesiynol cyn iddynt fod ar gael yn ehangach. 鈥�
Ochr yn ochr 芒鈥檙 digwyddiadau hyn, mae CAL:ON Cymru yn gweithio gyda Dysgu i gyflwyno diwrnodau Arweinyddiaeth Llythrennedd i arweinwyr ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyn mynychu, bydd yr uwch reolwyr a鈥檙 cydlynwyr llythrennedd yn yr ysgolion yn cwblhau awdit llythrennedd ysgol gyfan. Ar y diwrnod, byddant yn clywed am y darlun cenedlaethol ynghyd 芒'r wyddoniaeth ynghylch sut mae llythrennedd yn datblygu. Yna byddant yn gweithio mewn grwpiau gyda hwylusydd i gymharu gwerthusiadau鈥檙 awdit, cytuno ar hyd at dair blaenoriaeth a dechrau datblygu cynllun ar gyfer newid yn eu hysgol. Gofynnir i ysgolion hefyd pa gefnogaeth ar lefel genedlaethol fyddai鈥檔 eu helpu i sicrhau cynnydd mewn llythrennedd.
Bydd manylion digwyddiadau eraill yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a bydd ein modiwlau Dysgu Proffesiynol ar-lein ar gael ar 么l y cyfnod peilot o haf 2027.