Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Groeso ar gyfer ymweliad â Chastell Penrhyn, yma ym Mangor!
Archwiliwch y castell Neo-Normanaidd trawiadol hwn, ei ystafelloedd mawreddog, ei geginau Fictoraidd, ei erddi a’r parcdir o’i amgylch, wrth ddarganfod hanes hynod ddiddorol un o adeiladau mwyaf eiconig Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd dros Eryri a’r Fenai, mae’n gyfle gwych i fynd allan, archwilio’r ardal leol a chwrdd â myfyrwyr eraill.
Mae Castell Penrhyn hefyd wedi dod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer ffilmio. Yn fwyaf diweddar, cafodd sylw amlwg yn House of Guinness ar Netflix, lle’r oedd y castell yn cynrychioli ystâd a chartref teulu Guinness yn y ddrama gyfnod poblogaidd. Ymddangosodd hefyd yn y gyfres Watchmen gan HBO, a defnyddiwyd mynedfa fawreddog a strwythur trawiadol y castell fel cefndir ar gyfer ffilm James Bond, The World Is Not Enough!
Bydd mynediad AM DDIM i’r castell a’r tiroedd – mae caffi ar y safle, ond rydym yn eich annog i ddod â’ch pecyn bwyd eich hun.
Dewch â chôt hefyd, rhag ofn i'r tywydd yng Nghymru roi cawod neu ddwy i ni!