Pecyn Gwaith 1聽
Mae Pecyn Gwaith 1 yn canolbwyntio ar adeiladu gallu cenedlaethol mewn addysgu llythrennedd seiliedig ar dystiolaeth drwy ddysgu proffesiynol (DP), canllawiau llythrennedd, ac integreiddio o fewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). O dan arweiniad Prifysgol Efrog, gyda chyfraniadau gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, UCL, a BookTrust Cymru, bydd y maes hwn yn cynnig dysgu proffesiynol dwyieithog i athrawon ac arweinwyr ysgol ledled Cymru.
Mae gweithgareddau鈥檔 cynnwys datblygu a threialu modiwlau DP ar ddarllen cynnar (yn cynnwys ffoneg systematig), rhuglder darllen, dealltwriaeth a llafaredd; gwreiddio鈥檙 rhain mewn rhaglenni AGA; a chyd-greu deunyddiau canllaw dwyieithog i ysgolion ac awdurdodau lleol. Erbyn diwedd y project, bydd Pecyn Gwaith 1 yn cynnig model dysgu proffesiynol dwyieithog graddadwy sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檙 Cwricwlwm newydd i Gymru.
Projectau o fewn Pecyn Gwaith 1
- Dysgu Proffesiynol - Cynradd ac Uwchradd: Modiwlau ar-lein a gweithdai wyneb yn wyneb i wella arbenigedd athrawon mewn addysgu llythrennedd cynnar (yn cynnwys ffoneg sysematig).
- Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA): Gweithio gyda darparwyr AGA ledled Cymru i sicrhau bod athrawon newydd yn graddio gyda sylfaen gref mewn llythrennedd seiliedig ar dystiolaeth.
- Canllawiau Llythrennedd Cenedlaethol:鈥疍ogfennau a gyd-gynhyrchwyd sy鈥檔 cynnig egwyddorion clir, enghreifftiau, a phroffiliau ymarfer i gefnogi cysondeb mewn cyflwyno llythrennedd ledled Cymru.鈥�鈥�
Byddwn yn sicrhau bod ein holl adnoddau ar gael ym mis Medi 2026, a byddwn yn treialu eu heffeithiolrwydd ar yr un pryd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad i unrhyw un o'n hadnoddau a chymryd rhan yn y cyfnod prawf ym mis Medi 2026, cysylltwch 芒 calonysgol@bangor.ac.uk