成人VR视频

Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Plismona ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Plismona

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd ac cyn swyddogion heddlu sy'n angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Mae rhai o鈥檔 staff wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru yn dod a鈥檌 phrofiadau personol i鈥檙 dosbarth. Yn ogystal 芒 Heddlu Gogledd Cymru mae gennym berthynas da gyda llawer iawn o asiantaethau troseddol ar draws y DU ac yn aml gyda siaradwyr gwasg ac yn trefnu tripiau i鈥檔 myfyrwyr i ymweld gyda nhw. 

Gwylio ein fideo

Llun o Dewi Roberts yn edrych tuag at y camera
Fideo: Dewi Roberts - Darlithydd mewn Plismona Proffesiynol

Llongyfarchiadau am gael eich cynnig i ddod i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf rydym yn rhoi addysg i chi i sut i sut i fod yn blismon.

Ac yngl欧n 芒 gyrfa am fod yn blismon rydym hefyd yn cael pobol i mewn fel Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill i drafod y pwnc gyda chi, dwi'n edrych ymlaen at weld chi yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r radd Plismona Proffesiynol yn cael ei chyflwyno ym Mhrifysgol Bangor mewn ystafell ddosbarth a chyda ymweliadau oddi ar y safle a siaradwyr gwadd.

Ym mlwyddyn 1 y radd Plismona Proffesiynol bydd tua 12 awr o addysgu wyneb yn wyneb ynghyd 芒 thiwtorialau ac ati.

Nid yw cwblhau鈥檙 radd Plismona Proffesiynol yn golygu y gallwch ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth Heddlu gan y bydd yn dal rhaid i chi gwblhau鈥檙 broses ymgeisio. Byddwch yn cael eich cefnogi gyda鈥檆h cais yn ystod y cwrs.

Gallwch ceisio ymuno ag unrhyw Heddlu yng Nghymru neu Loegr ar 么l i chi raddio.

Gallwch ymuno 芒鈥檙 Heddlu Gwirfoddol a chewch eich cefnogi gyda鈥檙 broses hon. Mae cyfleoedd gyrfa eraill gydag asiantaethau megis y Gwasanaeth Prawf ac ati, a bydd mewnbwn gyrfa ar opsiynau gwaith eraill.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Alun Oldfield, Lorraine Barron a Lisa Sparkes yn sefyll y tu allan i ysgol wnaeth nhw ymweld 芒 hi yn ddiweddar

Mr Alun Oldfield (cyn DPA)

Treuliais 31 mlynedd yn gweithio gyda鈥檙 Heddlu, ac fel rhan o welliant parhaus o fewn fy maes arbenigedd, astudiais Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig. Cefais fy addysgu gan gydweithwyr rhagorol, a dwi鈥檔 awyddus i drosglwyddo fy mhrofiadau i fyfyrwyr newydd.

Dylanwadu ar safbwyntiau beirniadol myfyrwyr ar ymgysylltu 芒'r cyhoedd, a'u dull gweithredu Plismona.

Yr amgylchedd, proffesiynoldeb ac egni fy nghydweithwyr, a rhannu fy mhrofiad a gwybodaeth i helpu myfyrwyr i ddatblygu a chyflawni.

Dwi wedi gweithio ar, ac wedi arwain, nifer o ymchwiliadau i lofruddiaethau yn ystod fy amser ym maes Plismona, a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i allu astudio a datblygu dull addysgu trwy brofiad ar gyfer myfyrwyr. Dwi wedi datblygu Diwrnod Ymchwiliad Llofruddiaeth lle gwahoddir myfyrwyr i'r brifysgol i weithio ar ymchwiliad llofruddiaeth a gwrando ar berson茅l allweddol o鈥檙 Heddlu sy'n gysylltiedig 芒'r digwyddiad.

Dwi鈥檔 dal i weithio o fewn Ymchwiliadau'r Heddlu a dwi鈥檔 gallu gwella fy null addysgu鈥檔 barhaus a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau Deddfwriaethol a Gweithredol.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd