Teitl y prosiect: 'Reframing Eryri in praxis: Anticipating future needs for renewed understandings, relations and approaches to landscape in the Welsh decision-making process'
Ymchwilydd Doethurol: Alex Ioannou
Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Norman Dandy
Cefnogir yr ymchwil gan: The Drapers鈥� Company
Mae project Alex yn fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts. Mae ei broject yn rhyngddisgyblaethol ac mewn sefyllfa i wneud cyfraniad arbennig tuag at sut y gallem fynd i'r afael ag un o'r heriau byd-eang mwyaf brys. Mae cymaint o鈥檙 agweddau ar y materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n ein hwynebu鈥檔 ymwneud 芒'r tir a鈥檙 dirwedd: sut mae'n cael ei defnyddio, ei rheoli, ei ffurfio a'i gweld. Mae treftadaeth, traddodiad, diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu'n drwm ar berthynas ein cymdeithas 芒 thir a thirwedd - o ran yr arferion a'r canfyddiadau hyn.
Mae'r ymchwil arfaethedig yn ceisio cymhathu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chymhleth o 'stori' hanesyddol y dirwedd yng Nghymru ers c.1760 (gan gyfeirio'n benodol at astudiaeth achos o ardal a thystiolaeth hanesyddol gysylltiedig yng Ngwynedd). Bydd y project yn defnyddio'r cyd-destun hanesyddol yn sylfaen, a bydd yn mynd ati i geisio defnyddio'r 'stori' honno i ddylanwadu (neu 'ail-lunio') ar agweddau a chanfyddiadau cyfoes tuag at dir a thirwedd, trwy ymgysylltu鈥檔 briodol a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth O wneud hynny, bydd yn hyrwyddo ymrwymiad strategol Prifysgol Bangor i'r agenda cynaliadwyedd a chysylltiadau dinesig.
Nod y project ymchwil hwn yw cysylltu鈥檙 trafodaethau cyfredol yngl欧n 芒鈥檙 newid yn y dirwedd 芒'r gorffennol a darparu 'fframiau' amgen i'r rhai a fu鈥檔 ein sbarduno cyhyd. Gobaith Alex yw helpu Cymru i feithrin perthynas wahanol 芒鈥檌 thir. Gwefan y prosiect yw:
Mae Alex wedi cynhyrchu darlith ar-lein mewn dwy ran am ei brosiect, sy'n trafod ei brif ganfyddiadau o'i ymchwil archifol a chymunedol, ac sydd hefyd yn cynnwys disgrifiad o'i ddull o astudio newidiadau i'r dirwedd yn Nyffryn Ogwen. Gallwch wylio a .
Cyhoeddiadau:
'Eleftheria Square: The Legacies and Dichotomies Woven into Nicosia鈥檚 Urban Fabric', Cyprus Review 35:2 (2024), 89-111.
'Towards a reframing of Eryri: how historic framings of landscape influence perceptions and expectations of a Welsh national park', Architecture_MPS 26:1 (2023).
Alex Ioannou, 鈥楻esearch methodologies for changing landscapes and places in flux鈥�, yn Fabian Neuhaus (gol.), , AMPS Proceedings Series 30 (Prifysgol Calgary, 28-30 Mehefin 2022), 257-67.
Cynadleddau:
22ain Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol Tai Hanesyddol ym Mhrifysgol Maynooth, Iwerddon (Mai 13-14, 2024)
Cynhadledd Derfynol y Rhaglen Penderfyniadau Tirwedd, Rhaglen Penderfyniadau Tirwedd yn y Gymdeithas Frenhinol, Llundain (Medi 6-7, 2023)
Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol RGS-IBG, Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Llundain (Awst/Medi 30-1, 2023)