O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy magu yng Nghyprus a symud i bentref Y Felinheli yng Nghymru yn nechrau 2020.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Mae cymaint o鈥檙 agweddau ar y materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n ein hwynebu鈥檔 ymwneud 芒'r tir a鈥檙 dirwedd: sut mae'n cael ei defnyddio, ei rheoli, ei newid a'i fframio. Mae treftadaeth, traddodiad, diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu'n drwm ar berthynas ein cymdeithas 芒 thir a thirwedd - o ran yr arferion a'r canfyddiadau hyn. Mae fy mhroject doethuriaeth yn ceisio 'Ail-fframio Eryri' trwy ddod 芒 dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chynnil o'i 'stori' hanesyddol at ei gilydd trwy dri dull: ymchwil archifol, cwestiynu polisi a dull gweithredu cydweithredol ailadroddol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol. Dechreuais fy mhroject yn 2021.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Pensaern茂aeth tirwedd, Hanes tirwedd, Dulliau cydweithredol, Gwneud penderfyniadau lleol.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Datblygodd fy niddordeb hirsefydlog mewn perthynas pobl 芒 thirweddau gyntaf yn ystod fy hyfforddiant fel Pensaer Tirwedd. Mae natur drawsddisgyblaethol astudiaethau tirwedd, ynghyd 芒 gyrfa yn y sectorau amgylcheddol a threftadaeth wedi fy mharatoi鈥檔 berffaith i ddilyn yr ymchwil ddoethurol hon.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae gan y Sefydliad gylch gwaith eang, sy鈥檔 galluogi ac yn gwahodd pob math o ymchwil sy鈥檔 ymwneud ag ystadau Cymru. Mae hyn yn gwneud y projectau sy'n gysylltiedig 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru mor amrywiol a chyffrous 芒'r ymchwilwyr sy'n eu harwain.
Beth yw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Yn ystod 2023 cwblheais bymtheg o gyfweliadau gyda chydweithwyr lleol sydd 芒 chysylltiadau cryf ag ardal fy astudiaeth achos yn Nyffryn Ogwen. Roedd fy nghyfweliadau yn gyfle gwych i gwrdd 芒 phobl hynod ddiddorol ac angerddol, gan fy helpu hefyd i ddeall canfyddiadau o hanes lleol, newid tirwedd a dyfodol posibl yr ardal.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yng Nghymru yw ar ben Gyrn Goch ym Mhen Ll欧n. Mae鈥檙 ddringfa serth yn eich gwobrwyo 芒 golygfeydd eang ar draws Eryri, Pen Ll欧n ac Ynys M么n. Lle gwych am banad a chacen gri.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Ydych chi wedi clywed am y band o Gymru, Budgie? Ffurfiwyd Budgie yn 1967 a dywedir yn aml ei fod yn un o鈥檙 bandiau metel trwm cyntaf yn y Deyrnas Unedig, yn adnabyddus am eu sain tywyll, 芒 chydig o鈥檙 bl诺s wedi鈥檌 adeiladu o alawon tywyll a riffs git芒r ffyrnig. Roedd ganddyn nhw Iron Maiden fel act ategol ym 1979 a chyfeiriodd Metallica atyn nhw fel dylanwad mawr鈥� pa mor c诺l yw hynny!
Sut gall pobl gysylltu 芒 chi neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich project ymchwil? Gwefan fy mhroject yw: .
Cysylltwch 芒 Alex:
alex.ioannou@bangor.ac.uk