Trafod Gorffennol a Dyfodol Eryri yn Narlith Flynyddol yr Archifau
Rydym yn hynod falch o'n hymchwilydd doethurol Alex Ioannou, a wahoddwyd i roi Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ddydd Mercher, 12fed o Dachwedd 2025. Rhoddodd darlith Alex, 'Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture', fewnwelediad diddorol i'w brosiect ymchwil doethuriaeth rhyngddisgyblaethol, sydd 芒'i wreiddiau yn Nyffryn Ogwen yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gwaith Alex yn cysylltu trafodaethau cyfredol am newid tirwedd 芒'r gorffennol, trwy dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol. Gan ddefnyddio'r cyd-destun hanesyddol hwn fel sylfaen, trefnodd Alex gyfres o weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth gyda phobl Dyffryn Ogwen gyda'r nod o 'ail-fframio' agweddau a chanfyddiadau cyfoes tuag at dirwedd ac 'aflonyddu' dealltwriaethau dominyddol i ddatgelu dealltwriaeth llawer cyfoethocach a mwy amrywiol. Mae ei brosiect yn darparu model amgen ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch tirwedd sy'n cynnwys pobl a chymunedau lleol.
Bob blwyddyn ers 2011, mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi gwahodd siaradwr sydd wedi treulio cyfnod sylweddol o amser yn ymchwilio i bwnc penodol yn yr Archifau neu sy'n arbenigo mewn maes pwnc sy'n berthnasol i'r adran i roi eu Darlith Flynyddol; gellir gweld rhestr o ddarlithoedd blaenorol a'r siaradwyr uchel eu parch ar-lein. Mae siaradwr 2025, Alex Ioannou, wedi gwneud defnydd helaeth o gasgliad Yst芒d Penrhyn fel rhan o'i brosiect doethuriaeth o'r enw 'Ail-fframio Eryri mewn Ymarfer', menter ar y cyd rhwng Sefydlian Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer Defnydd Tir Cynaliadwy, sy'n taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri wedi newid, o drawsffurfiadau ffisegol i'r newidiadau mwy anweledig, er enghraifft canfyddiad pobl o'r dirwedd. Mae Alex hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Archifau dros y flwyddyn ddiwethaf fel Cynorthwyydd Ymchwil a Digideiddio ar brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i ddigideiddio a darparu mynediad ar-lein i Bapurau Jamaica o fewn casgliad Yst芒d Penrhyn.
Mae'n destun balchder sylweddol bod un o'n myfyrwyr doethuriaeth wedi cael ei wahodd i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau... Ers ymuno 芒 ni yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Alex wedi ymgolli'n llwyr yn yr Archifau a thrwy ei ymchwil, ei gydweithrediad, ei greadigrwydd a'i ofal mae wedi chwarae rhan bwysig wrth daflu goleuni ar sut y gall y deunydd hanesyddol hwn gyfrannu at rai o'r brif heriau a materion cyfoes.
Ar 么l cyflwyniadau gan Archifydd y Brifysgol, Elen Wyn Simpson, talodd Alex deyrnged i d卯m yr Archifau 鈥 sydd hefyd yn cynnwys Shan, Lynnete a Gwyn 鈥 gan annog i bawb eu cymeradwyo. Roedd hyn yn arbennig o deimladwy yng nghydestun digwyddiadau鈥檙 misoedd blaenorol, a welodd Achos Busnes y Brifysgol dros Newid yn cynnig toriadau sylweddol i鈥檙 Archifau, er fe gafodd y rhain eu gwrthdroi i raddau helaeth, diolch byth. Yn sgil y cynnigion, daeth sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru a thu hwnt at eu gilydd i ddangos eu cefnogaeth i'r Archifau. Roedd yna dros 3,000 o lofnodion ar y ddeiseb 鈥楢chub Ein Harchifau鈥 a gychwynnwyd gan Alex!
Agorodd Alex ei ddarlith drwy bwysleisio difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd presennol a'i effaith ar dirwedd Cymru, sef mwy o sychder, llifogydd a thonnau gwres ac effaith gwael ar yr ecosystem. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw hwn yn 'ddegawd pendant' i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd, sy'n golygu bod angen i'r ffordd rydym yn rheoli ein tirweddau esblygu. Er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth Cymru i 鈥榖ob dinesydd, cymuned, gr诺p a busnes yng Nghymru ymgorffori鈥檙 argyfwng hinsawdd yn y ffordd maen nhw鈥檔 meddwl, gweithio, chwarae a theithio鈥, eglurodd Alex fod y p诺er o ran gwneud penderfyniadau ynghylch defnydd tir yn dal i fod gyda鈥檙 llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff a noddir gan y llywodraeth, yn y pen draw. Un o brif gwestiynau ymchwil Alex yw 鈥榮ut y gellir gwneud penderfyniadau鈥檔 fwy gwybodus?鈥 Fel y daeth i鈥檙 amlwg yn ystod ei ddarlith, mae鈥檔 credu鈥檔 gryf y gellir gwneud penderfyniadau lleol yn fwy gwybodus pan fydd mwy o bobl yn cymryd rhan; 鈥嬧媐odd bynnag, mae pobl leol a grwpiau cynrychioliadol yn wynebu rhwystrau sylweddol i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, hyd yn oed o fewn eu milltir sgw芒r eu hunain. Felly, un arall o鈥檌 gwestiynau ymchwil allweddol yw 鈥榮ut gellir herio syniadau dominyddol a deinameg p诺er?鈥
Mae prosiect doethuriaeth Alex wedi herio'r arfer, drwy ddatblygu a phrofi dull newydd o wneud penderfyniadau cydweithredol ar lefel leol. Roedd ei fethodoleg yn cynnwys cynnal cyfres o weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth yn ei ardal astudiaeth achos fel ffordd o gydweithio 芒 phobl leol mewn ffordd greadigol a gofalgar. Roedd y rhain yn cynnwys cyfweliadau 芒 ffermwyr, cynghorwyr ac artistiaid allan yn y dirwedd; cyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth gymunedol ym Methesda, Mynydd Llandygai, a Thregarth; ac arddangosfa yn Pontio ym Mangor. Dyma ffordd o 鈥渄dod 芒 gwybodaeth i mewn nad yw fel arfer yn cael eu bwydo i mewn i'r system gwneud penderfyniadau tirwedd鈥, eglura Alex.
Gan ddychwelyd at y cwestiwn ymchwil allweddol sef 鈥榮ut y gellir gwneud penderfyniadau鈥檔 fwy gwybodus?鈥, eglurodd Alex fod gwneud penderfyniadau ynghylch tirwedd yn cael ei yrru yn y pen draw gan farn arbenigol, data gwyddonol a gwybodaeth a gynhyrchir yn sefydliadol. Un o egwyddorion craidd prosiect Alex yw bod 鈥渢irwedd yn gysyniad cymhleth sy鈥檔 cynnwys nid yn unig yr agweddau ffisegol鈥; ni ellir ei deall mewn termau esthetig a gwyddonol yn unig. Dadleua Alex fod yn rhaid i ni 鈥渁il-fframio鈥 sut rydym yn canfod tirwedd i gydnabod ei bod yn llawn atgofion ac ystyr.
Yn gyntaf, edrychodd Alex ar newid yn y dirwedd yn y gorffennol. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori 芒 deunydd eilaidd i archwilio dealltwriaethau鈥檙 gorffennol o berthnasoedd dynol 芒 thirwedd. Yn ogystal, ymgymerodd ag ymchwil archifol, gan ddefnyddio casgliad Yst芒d Penrhyn yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor i ddatgelu sut y newidiodd tirwedd Dyffryn Ogwen rhwng 1760 a 1951. Disgrifiodd ei gyflwyniad sut y gwnaeth y tirfeddianwyr lleol, y teulu Pennant o Gastell Penrhyn, drawsnewid y dirwedd yn gorfforol trwy ffermio, chwarela, adeiladu argaeau a sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth; heb s么n am ddenu cannoedd o weithwyr i'r ardal i fyw. Fodd bynnag, ystyriodd Alex hefyd y newid yng nghanfyddiad y dirwedd yn ystod y cyfnod hwn. Er enghraifft, ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ystyriwyd Eryri fel lle peryglus a ffiaidd, a ddisgrifiwyd fel 'the fag end of Creation'. Ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ystyriwyd Eryri yn brydferth a darluniadwy ac roedd yn denu teithwyr, artistiaid a thwristiaid di-ri.
Nesaf, eglurodd Alex sut mae 鈥榥aratifau swyddogol鈥 Dyffryn Ogwen yn cael eu rheoli gan y tirfeddianwyr a鈥檙 awdurdod lleol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru a鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae eu gwefannau鈥檔 disgrifio Eryri fel 鈥渓le prydferth a gwyllt鈥 er mwyn apelio at synhwyrau pobl; 鈥渓le llawn antur a chyfleon鈥 i hyrwyddo gweithgareddau awyr agored; a 鈥渇fynhonnell ysbrydoliaeth鈥 i awduron ac artistiaid. Fodd bynnag, dadleuodd Alex fod 鈥測 naratif swyddogol hwn yn symleiddio鈥檙 amodau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn Eryri, ac yn lleihau cymhlethdod perthynas trigolion y gorffennol 芒鈥檙 dirwedd鈥. Gan ddefnyddio鈥檙 cyd-destun hanesyddol a gasglwyd ganddo o鈥檙 Archifau fel sylfaen ar gyfer ei weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth, aeth ati i 鈥榓il-fframio鈥 Dyffryn Ogwen, gan ofyn cwestiynau fel 鈥榩a naratifau sy'n bodoli am gymunedau a thirwedd Dyffryn Ogwen?鈥 a 鈥榮ut mae pobl leol yn canfod ac yn profi newid yn Nyffryn Ogwen?鈥. Y nod yw y bydd y math gwahanol hwn o wybodaeth yn cael ei fwydo鈥檔 么l i鈥檙 broses o wneud penderfyniadau.
I grynhoi, mae prosiect Alex wedi datblygu dull newydd o wneud penderfyniadau ar y cyd ar lefel leol. Ar ben hynny, mae wedi dangos y gellir llywio penderfyniadau lleol sy'n ymwneud 芒'r dirwedd yn well trwy mewnbwydo safbwyntiau hanesyddol a phersonol. Nid yn unig roedd hwn yn gyflwyniad a oedd yn gwahodd pobl i feddwl, ond roedd yn hynod ddiddorol yn weledol, yn llawn ffotograffau, mapiau, paentiadau a diagramau, heb s么n am y ffilm fer hanner ffordd trwy'r ddarlith! Gellir gweld rhai o'r gwaith a'r deunydd archifol a gyflwynwyd yn .
Dechreuodd sessiwn Cwestiwn ac Ateb y noson gyda chwestiwn am ddyfodol twristiaeth a'r pwysau sy'n deillio o hynny, ac fe siaradodd Alex am b诺er ail-lunio a chwestiynu naratifau penodol am "bobl leol yn erbyn twristiaid" i helpu i leddfu tensiynau. Yn ogystal, soniodd aelod o'r gynulleidfa am ei taid oedd yn yrrwr ar reilffordd Ystad Penrhyn.
Dywedodd Goruchwyliwr Alex a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans, ei bod 鈥測n destun balchder sylweddol cael un o鈥檔 myfyrwyr doethuriaeth wedi鈥檌 wahodd i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau. Mae鈥檙 Archifau鈥檔 ganolog i bopeth a wnawn fel canolfan ymchwil, ac yn adnodd mor unigryw i鈥檙 Brifysgol. Ers ymuno 芒 ni yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Alex wedi ymgolli鈥檔 llwyr yn yr Archifau a thrwy ei ymchwil, ei gydweithrediad, ei greadigrwydd a鈥檌 ofal mae wedi chwarae rhan bwysig wrth daflu goleuni ar sut y gall y deunydd hanesyddol hwn gyfrannu at rai o'r brif heriau a materion cyfoes. Ynghyd 芒 phawb yn y Sefydliad, rwy鈥檔 estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Alex a fy niolchgarwch parhaus i d卯m yr Archifau am bopeth a wn芒nt.鈥
Dywedodd Alex: 鈥淩oedd derbyn gwahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau yn hyfryd, ac yn anrhydedd fawr. Hoffwn ddiolch i鈥檙 T卯m Archifau a Chasgliadau Arbennig am eu cefnogaeth barhaus. Heb eu harbenigedd a鈥檜 hamynedd ni fyddai fy ymchwil wedi bod yn bosibl. Roedd yn bleser cyflwyno fy nghanfyddiadau i gynulleidfa brwdfrydig o bobl leol. Mae鈥檙 archifau yma ym Mangor yn arbennig ac mae'r cyfle i ddangos beth sydd ganddyn nhw yn eu casgliadau yn arbennig. Hoffwn hefyd ddiolch i鈥檓 goruchwyliwr Shaun am ei anogaeth a鈥檌 gymorth dros y blynyddoedd".
(Gan Dr Bethan Scorey. Diolch i Alex Ioannou am ei mewnbwn)