Eleni, roedd Bangor yn sefyll allan am ei chydbwysedd cryf rhwng fforddiadwyedd a phrofiad myfyrwyr, gyda chostau byw cymharol isel ynghyd 芒 sg么r uchel ar gyfer bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd hefyd. O gyfradd troseddu isel i gost taith Uber, pryd o fwyd yn McDonald鈥檚, a hyd yn oed peint o gwrw, sgoriodd Bangor yn uchel ym mhob categori. Seiliodd y llunwyr eu canlyniadau ar sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi鈥檜 rhestru yn The Complete University Guide.
Cipiodd Bangor y safle uchaf yn yr un tabl hefyd yn 2023. Mae cipio鈥檙 un teitl yn 2026 yn atgyfnerthu enw da鈥檙 brifysgol fel lle cymharol resymol a diogel i astudio.
Yn wahanol i dablau cynghrair traddodiadol sy鈥檔 canolbwyntio ar raddau, cofrestru, a rhagolygon graddedigion, mae safle Unifresher yn cymharu ffactorau sy鈥檔 adlewyrchu bywyd go iawn myfyrwyr, gan gynnwys costau byw, cyfraddau troseddu, ymdrechion cynaliadwyedd, ac ansawdd bywyd cymdeithasol.
Mae agwedd Prifysgol Bangor at gynaliadwyedd, a鈥檌 huchelgais i arwain y maes o ran cynaliadwyedd wedi ennill sg么r uchel i鈥檙 brifysgol, a鈥檌 gosod ar frig y rhestr. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel i astudio, yn 么l y canllaw amgen. Roedd yr elfen olaf yn ychwanegu gwybodaeth o ffynonellau sy鈥檔 dangos barn y myfyrwyr eu hunain am fywyd cymdeithasol.
Cyflawnodd Prifysgol Bangor y sg么r uchaf o 539, gan ei gosod yn gadarn ar frig y tabl o flaen Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Newcastle.