成人VR视频

Fy ngwlad:

Dr Hadia Almahli, uwch ddarlithydd mewn cemeg feddyginiaethol yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru  

Dr Hadia Almahli sy'n arwain y rhaglen ymchwil cemeg feddyginiaethol a darganfod cyffuriau. Cwblhaodd ei MSc a'i PhD ym Mhrifysgol Paris-Sud cyn symud ymlaen i rolau ymchwil ac addysgu mewn sefydliadau sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt, UCL, a Phrifysgol Sussex. Yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol Cemeg, mae ei gwaith wedi鈥檌 gyhoeddi'n eang ac wedi cael ei gyflwyno mewn dros 50 o gynadleddau rhyngwladol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu asiantau therapiwtig a diagnostig newydd o ran clefydau heintus, canser, a niwroddirywiad. Mae Dr Almahli yn un o sylfaenwyr t卯m rhaglen fferylliaeth Prifysgol Bangor, yn ddeiliad grant ac yn dderbynnydd gwobr, yn llysgennad STEM gweithredol, ac yn gyfrannwr ymroddedig at adeiladu capasiti gwyddonol yn Syria. Mae hi hefyd yn cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant trwy ei gwaith fel rhan o d卯m Athena Swan.

Dr Sarah Cooper, darlithydd mewn ieithyddiaeth yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau  

Cwblhaodd Dr鈥�Sarah鈥�Cooper PhD mewn ieithyddiaeth cyn mynd ati i weithio ar鈥�adnabod lleferydd鈥�Cymraeg gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen i ymgymryd 芒鈥檌 swydd bresennol yn yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd, lle mae'n addysgu seineg a dwyieithrwydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ffoneteg鈥�Cymraeg,鈥�caffael ail iaith, ac agweddau iaith, gyda diddordeb arbennig yn y ffordd y mae oedolion yn dysgu ynganiadau鈥�Cymraeg鈥�a sut mae hyn yn siapio hyder ac integreiddiad fel siaradwyr newydd. Mae hi'n parhau i gydweithio 芒'r Uned Technolegau Iaith ac yn goruchwylio myfyrwyr sy'n gweithio ar dechnolegau ar gyfer ieithoedd sydd 芒 llai o adnoddau.鈥�Mae gan Sarah鈥�diddordeb mewn datblygu ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n cysylltu iaith, cymdeithas ac ymgysylltiad cyhoeddus. 

Dr Reshma Silvester, swyddog ymchwil 么l-ddoethurol mewn microbioleg amgylcheddol yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol    

Mae gan Dr Reshma Silvester radd BSc mewn Microbioleg, MSc mewn Microbioleg Gymhwysol, a PhD sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd i wrthfiotigau. Yn flaenorol, bu鈥檔 gweithio gyda鈥檙 One Health Trust ar fapio ymwrthedd gwrthficrobaidd byd-eang ar draws gwledydd incwm isel neu ganolig, ac yn ddiweddarach cynhaliodd ymchwil 么l-ddoethurol ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cochin yn India, ar ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn systemau bwyd m么r a dyframaeth. Ymunodd 芒 Phrifysgol Bangor yn 2023 drwy'r project Gwyliadwriaeth Pathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Amgylchedd (PATH-SAFE), lle mae hi bellach yn arwain mentrau gwyliadwriaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd gan ddefnyddio dull Iechyd Cyfunol o fewn y gr诺p ymchwil d诺r gwastraff dan arweiniad yr Athro Davey Jones. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar olrhain lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd ar draws d诺r gwastraff ysbytai a chymunedau, samplau amgylcheddol, a systemau amaethyddol, gan helpu i ddarparu tystiolaeth at ddibenion polisi iechyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau. Mae Reshma yn defnyddio dulliau cyfrifiadurol a genomig uwch i nodi bacteria niweidiol a'r genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd sy'n cylchredeg o fewn cymunedau. Gyda bron i 15 mlynedd o brofiad mewn ymchwil i ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae ei gwaith yn cyfrannu at ymdrechion gwyliadwriaeth cenedlaethol ac yn mynd i'r afael 芒 heriau byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd. 

Dr Sophie Ward, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion  

Enillodd Dr Sophie Ward ei gradd BSc mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caerfaddon a gweithiodd fel ymgynghorydd amgylcheddol cyn ailymuno 芒'r byd academaidd ac ailhyfforddi mewn gwyddor m么r. Cwblhaodd ei MSc a'i PhD mewn eigioneg ffisegol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Sophie bellach yn arbenigo mewn defnyddio modelau cefnfor rhifiadol i ddeall sut mae systemau morol yn ymateb i bwysau dynol a naturiol. Mae hi wedi meithrin arbenigedd ymchwil drwy ystod eang o brojectau rhyngddisgyblaethol, yn cwmpasu cadwraeth siarcod, llygredd morol, ynni adnewyddadwy a newid amgylcheddol hirdymor. Wedi ymrwymo i wneud ei hymchwil yn ddefnyddiol y tu hwnt i'r byd academaidd, mae Sophie yn gweithio gyda chynulleidfaoedd cyhoeddus ac yn creu offer ar-lein wrth gydweithio 芒 sefydliadau sy'n ymwneud 芒 pholisi morol at ddibenion penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae hi'n ymddiddori mewn sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol i hyrwyddo gwyddor m么r ac i ddatblygu dulliau sy'n gwella effaith ymchwil trwy gyfathrebu gwyddoniaeth greadigol.