Yn ystod yr ymweliad, aeth Rhun ar daith o amgylch y safle gydag aelodau o d卯m M-SParc a chlywodd sut y bydd y datblygiad yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer arloesedd, sgiliau, twf busnes a chyflogaeth gwerth uchel ledled Gogledd Cymru.
Ers agor yn 2018, mae M-SParc wedi dod yn un o ecosystemau arloesi blaenllaw Cymru, gan gefnogi busnesau sy'n gweithio ar draws sectorau gan gynnwys ynni carbon isel, technoleg ddigidol, technoleg amaethyddol, iechyd a gweithgynhyrchu uwch. Mae'r safle'n gartref i gymuned gynyddol o fusnesau, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid, gyda'r galw am le yn parhau i gynyddu.
Mae'r datblygiad diweddaraf yn nodi'r bennod nesaf yn nhwf M-SParc, gan ehangu gallu'r safle i gefnogi busnesau sy'n awyddus i leoli, cydweithio a thyfu yng Ngogledd Cymru. Mae gweddill y safle yn rhan o Borthladd Rhydd ac yn barod i鈥檞 ddatblygu.
Dyweddod Rhun ap Iorwerth, 鈥淵n fy r么l fel aelod lleol, rwyf wedi cael y fraint o weld M-SParc yn mynd o nerth i nerth ers iddo agor ei ddrysau yn 2018, ac mae鈥檙 gwaith diweddaraf i ehangu鈥檙 safle yn cynrychioli鈥檙 bennod nesaf mewn stori gyffrous i鈥檙 parc gwyddoniaeth.
鈥淢ae creu hybiau economaidd i fusnesau lleol arloesi, derbyn cefnogaeth, cydweithio, ac ehangu eu gorwelion yn hollbwysig, ac mae M-SParc yn destun prawf o鈥檙 twf economaidd a鈥檙 swyddi o safon gall ddeillio ohonynt.
鈥淩wyf wir yn edrych ymlaen at weld pa fusnesau eraill sy鈥檔 manteisio ar y cyfle i ymuno a theulu M-SParc yn y dyfodol, a pharhaf barod i gydweithio efo fy nghyd aelodau Plaid Cymru o鈥檙 Senedd dros Fangor Conwy M么n i gefnogi鈥檙 parc.鈥
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, "Roedd hi鈥檔 bleser croesawu Rhun i M-SParc a dangos iddo'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y safle a鈥檔 uchelgais i ddatblygu鈥檙 safle yn bellach. Fel rhywun sydd wedi cynrychioli Ynys M么n ers blynyddoedd lawer, mae'n deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r rhanbarth. Roedd yn werthfawr trafod sut y gall arloesedd, sgiliau a thwf busnes helpu i greu ffyniant hirdymor i gymunedau ledled Gogledd Cymru.
"Mae datblygiad parhaus M-SParc yn adlewyrchu'r uchelgais sy'n bodoli yma ar yr ynys ac ar draws y rhanbarth ehangach. Da ni鈥檔 gyffrous am yr hyn sy'n dod nesaf!鈥
Ers agor, mae M-SParc wedi cefnogi creu mwy na 150 o yrfaoedd gwerth uchel, dros 100 o interniaethau a lleoliadau diwydiannol, ac wedi helpu i ddenu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Ogledd Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd i ddatblygu ar safle M-SParc: