Bydd criw hwylio, sy’n dîm o ferched yn unig, yn gadael ar 12 Gorffennaf o Ilulissat ym Mae Disko, lle mae mynyddoedd iâ enfawr yn ymrannu o un o rewlifoedd mwyaf actif y byd. Bydd y criw’n hwylio tua'r de, gan ymweld â chymunedau anghysbell Qeqertarsuaq a Sisimiut, cyn cyrraedd y brifddinas, Nuuk.
Dan arweiniad y sefydliad amgylcheddol Prydeinig eXXpedition mewn partneriaeth â Phrifysgol Georgia, bydd Dr Winnie Courtene-Jones, sy’n Ddarlithydd mewn Llygredd Morol yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, yn ymuno â'r tîm fel arweinydd cenhadaeth ar y fordaith Arctig hon
Bydd Winnie a'i thîm yn parhau â'u cenhadaeth i fapio o ble mae plastig cefnforoedd yn dod ac i nodi'r atebion mwyaf effeithiol i'r her fyd-eang hon. Yn ystod yr alldaith, bydd y criw’n ymgymryd â gweithgarwch samplu dŵr ac yn dadansoddi microblastigion gan ddefnyddio offer gwyddonol o'r radd flaenaf. Byddant hefyd yn ymweld â chymunedau arfordirol ar hyd y ffordd, gan gynnal ymchwil ar y lan i sbwriel, cynhyrchion ac isadeiledd rheoli gwastraff, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr lleol.
Yn ystod yr alldaith, bydd Winnie yn gweithio gyda chriw amlddisgyblaethol o un ar ddeg o ferched anhygoel, gan gynnwys gwyddonwyr, eiriolwyr a chyfathrebwyr o bob cwr o'r byd. Gyda'i gilydd, byddant yn cyflawni tair prif biler yr alldaith: gwneud ymchwil wyddonol, rhannu eu straeon a gwersi gyda’i gilydd, ac ysbrydoli eu rhwydweithiau i weithredu.
Winnie oedd yr arweinydd gwyddoniaeth yn ystod taith eXXpedition o amgylch y byd (2019-2020), ac mae hi'n edrych ymlaen at ymuno â'r tîm eto. Wrth iddynt gychwyn o Ilulissat, dywedodd Winnie:
“Mae llygredd plastig yn broblem amgylcheddol fyd-eang. Fodd bynnag, dim ond drwy ennill gwell dealltwriaeth o sut mae plastig yn teithio o'i ffynhonnell i'r cefnforoedd y byddwn wedi'n cyfarparu'n llawn i fynd i'r afael â'r broblem. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth fynd i'r afael â'r her hon a gyrru atebion, ac rwy'n edrych ymlaen at archwilio hyn gyda'r criw rhyngddisgyblaethol.”
Dywedodd Emily Penn, Sylfaenydd eXXpedition, "Pan fyddwch yn hwylio i ddyfroedd rhewlifol a haul hanner nos yr Arctig, rydych yn disgwyl dod o hyd i'r cefnfor fel y dylai fod: gwyllt, cyntefig, heb ei gyffwrdd. Ond mae ein hymchwil yn adrodd stori wahanol. Dyma rai o'r dyfroedd mwyaf anghysbell ar y blaned, miloedd o filltiroedd o ddinasoedd mawr a chylchgerrynt cefnforoedd, ac eto rydym yn dal i ddod o hyd i blastig yn y dŵr ac ar hyd y glannau. Nid oes unman ar ôl lle nad yw'r argyfwng wedi cyrraedd. A dyna pam mae angen pobl o bob cefndir arnom i yrru atebion o bob ongl."
Dyma'r bedwaredd alldaith yn 2026, yn dilyn tair alldaith lwyddiannus o Seland Newydd i Tonga ym mis Ebrill a mis Mai eleni. Ar y tair alldaith gyntaf, bu i griw o 30 hwylio 1,740 milltir forol, gan gynnal 22 o samplau dŵr, 232 o samplau sbwriel a thrawsluniau arfordirol a dadansoddi 429 o ddarnau o blastig. Bu iddynt ymgysylltu â 191 o aelodau’r gymuned leol, a chreu 29 o straeon newyddion ar draws 7 gwlad. Bydd y data’n cael ei ddadansoddi a'r canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi gan Brifysgol Georgia yn ddiweddarach eleni.
Ineke van der Weijden fydd capten y llong alldaith, sef cwch hwylio 72 troedfedd SV Sea Dragon.
Yr un ar ddeg aelod o'r criw gwadd yw:
- Catherine Nicola Rogers, Arbenigwr Iechyd, y Deyrnas Unedig
- Elizabeth Starnes, Ymarferydd Nyrs, Unol Daleithiau America
- Kateryna Peinecke, Gwyddonydd Ynni Cynaliadwy, Canada
- Katy Bear Nalven, Cadwraethwr Morol, Unol Daleithiau America
- Katja Heinzlmaier, Academydd, Awstria
- Lyssa Manning, Cadwraethwr Morol, Unol Daleithiau America
- Natalie Foote, Arweinydd Gweithrediadau a Strategaeth, Unol Daleithiau America
- Shannon Osaka, Gohebydd Hinsawdd, Unol Daleithiau America
- Sofia Nogués Segura, Arbenigwr Cyfathrebu, Sbaen
- Stephanie Peters, Strategwr Amgylcheddol, y Deyrnas Unedig
Waverly Wadsworth, Peiriannydd Amgylcheddol, Unol Daleithiau America
Gallwch ddilyn cynnydd eXXpedition yn yr Arctig drwy’r blogiau .