Cynyddodd sg么r Ansawdd Addysgu Bangor o 87% i 90%, gan osod y Brifysgol yn yr 20 uchaf trwy鈥檙 Deyrnas Unedig ac yn ail yng Nghymru. Mae'r thema hon yn adlewyrchu canfyddiadau myfyrwyr o ba mor effeithiol y mae鈥檙 staff addysgu yn egluro cynnwys eu cyrsiau, yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ac yn eu herio i gyflawni hyd orau eu gallu.
Bu gwelliant sylweddol hefyd yn y thema Cyfleoedd Dysgu, a chododd y Brifysgol o safle 80 i safle 42 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig. Mae'r thema hon yn mesur canfyddiadau myfyrwyr o drylwyredd deallusol eu cwrs, y cyfleoedd sydd ar gael i archwilio syniadau鈥檔 drylwyr, a pha mor dda y mae eu hastudiaethau'n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth neu astudiaethau pellach yn y dyfodol.
Cynyddodd boddhad cyffredinol myfyrwyr hefyd, gan godi i 85%, gan olygu fod Prifysgol Bangor yn cadw ei safle fel 4ydd yng Nghymru.
Llwyddodd sawl rhaglen i gael canlyniadau eithriadol. Cafodd Hylendid Deintyddol, Bydwreigiaeth a Dylunio Cynnyrch sg么r positifrwydd o 100% am Ansawdd Addysgu, tra cafodd Gwyddor Fiofeddygol, Hylendid Deintyddol, Peirianneg Electronig, Bydwreigiaeth, Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Dylunio Cynnyrch, a Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd sg么r o 100% am foddhad cyffredinol myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, sef y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, "Mae cyrraedd yr 20 uchaf trwy鈥檙 Deyrnas Unedig am Ansawdd Addysgu, o blith y 124 o sefydliadau sy'n cymryd rhan, yn llwyddiant eithriadol. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ein rhaglen o welliannau wedi cyflwyno ymyriadau clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cefnogi gan gamau gweithredu mesuradwy. Mae rhoi'r ymyriadau hynny ar waith mewn modd cyson wedi arwain at welliant ym mhob agwedd o Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, a dyna sydd i gyfri am y canlyniad rhagorol yma. Rydyn ni鈥檔 hynod ddiolchgar i bob myfyriwr a gymerodd ran yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac i'n holl staff am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu profiad rhagorol i鈥檞 myfyrwyr."
Yn yr 20 uchaf trwy鈥檙 Deyrnas Unedig am Ansawdd Addysgu yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2026
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2026 wedi'u cyhoeddi, ac mae鈥檙 sgoriau positifrwydd Prifysgol Bangor wedi gwella ym mhob un o them芒u鈥檙 arolwg.