Beth Rydyn Ni鈥檔 Ei Wneud?
Mae鈥檙 project #NNF2 hwn yn ceisio adfer poblogaethau o wystrys brodorol a鈥檜 cynefinoedd cysylltiedig ym Mae Conwy.
Ein nod, drwy鈥檙 gwaith adfer hwn, yw adfywio cymuned forol fioamrywiol ac ailgysylltu cymunedau arfordirol 芒鈥檜 treftadaeth naturiol. Mae鈥檙 projiect yn cynnwys adfer cynefin, ymchwil wyddonol, ac ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned drwy wyddoniaeth dinasyddion, gweithgareddau estyn allan, addysg a chynhwysiant.
Drwy gyfuno gwaith adfer ecolegol ag ymgysylltu 芒 phobl leol, rydym yn cyfrannu tuag at adferiad hirdymor wystrys brodorol - rhywogaeth a oedd ar un adeg o arwyddoc芒d hanesyddol i forlin Cymru - a hybu mwy o ymwybyddiaeth o stiwardiaeth y m么r.
Sut Rydym yn Bwriadu Adfer Wystrys Brodorol
Beth Yw Meithrinfeydd Wystrys?
Mae meithrinfeydd wystrys yn amgylcheddau gwarchodedig a reolir. Maen nhw wedi鈥檜 cynllunio er mwyn cadw wystrys brodorol aeddfed, gan roi cyfle iddyn nhw atgynhyrchu a rhyddhau larf芒u i鈥檙 dyfroedd o鈥檜 hamgylch. Mae鈥檙 strwythurau hyn yn hanfodol er mwyn adfer wystrys, ac maen nhw鈥檔 helpu i ailadeiladu poblogaethau o wystrys mewn ardaloedd lle maen nhw wedi dirywio neu ddiflannu.
Pam Rydym Yn Eu Defnyddio
Yn ein safleoedd peilot ym Marinas Conwy a Deganwy, rydym wedi gosod meithrinfeydd wystrys crog o dan y pontynau - pob un yn cadw tua 27 o wystrys aeddfed. Mae鈥檙 safleoedd hyn yn creu amodau delfrydol i atgynhyrchu, gan gynnig amddiffyniad rhag ysglyfaethwyr, gwaddodi, a symudiad tonnau. Mae agosrwydd wystrys at ei gilydd yn y meithrinfeydd hyn yn cefnogi silio a rhyddhau larf芒u rheolaidd.
Sut Maen Nhw鈥檔 Gweithio
- Gwell Atgynhyrchu: Mae鈥檙 strwythur yn annog silio naturiol, 芒 larf芒u yn cael eu rhyddhau i鈥檙 golofn dd诺r yn ystod y tymhorau magu.
- Amddiffyn: Mae鈥檙 strwythur yn diogelu wystrys rhag cael eu gorchuddio gan waddod, rhag ysglyfaethwyr, a rhag amodau caled.
- Gwasgaru Larf芒u: Gall larf芒u sy鈥檔 cael eu rhyddhau setlo ar wely m么r addas cyfagos, gan ffurfio riffiau wystrys newydd a chyfrannu tuag at adfer y boblogaeth.
Manteision Amgylcheddol a Chymunedol
- Hybu Niferoedd Wystrys: Mae meithrinfeydd yn helpu i adfer poblogaethau brodorol o wystrys sy鈥檔 cynnal eu hunain yn y bae.
- Hidlo D诺r: Mae wystrys yn hidlo d诺r, gan dynnu maethynnau gormodol ohono, gwneud y d诺r yn gliriach a gwella ei ansawdd.
- Creu Cynefin: Mae larf芒u wystrys sydd wedi setlo yn ffurfio cynefinoedd riff sy鈥檔 cynnal ystod eang o fywyd morol.
- Gwyddoniaeth Dinasyddion: Mae gwirfoddolwyr lleol yn cael eu hyfforddi i gefnogi鈥檙 gwaith misol o fonitro鈥檙 meithrinfeydd 鈥 casglu data ar iechyd wystrys a bioamrywiaeth leol tra鈥檔 chwarae r么l ymarferol mewn cadwraeth forol.
Adfer riffiau wystrys yw鈥檙 broses o ailadeiladu cynefinoedd wystrys naturiol drwy greu鈥檙 amodau iawn i wystrys setlo, tyfu, a ffurfio strwythurau riff. Mae鈥檙 riffiau hyn yn cynnal bioamrywiaeth forol, yn gwella ansawdd d诺r, ac yn helpu i adfer ecosystemau arfordirol iach.
Ym Mae Conwy, rydym yn ceisio adfer cynefin wystrys brodorol drwy greu riff ar wely鈥檙 m么r gan ddefnyddio graean calchfaen a chregyn bylchog hindreuliedig. Mae鈥檙 deunyddiau hyn yn darparu鈥檙 arwyneb caled y mae ar larf芒u wystrys ei angen i gydio wrthynt a thyfu.
Mewn rhai cymunedau, mae cof byw am wystrys brodorol yn bodoli o hyd; mewn eraill, mae鈥檙 cysylltiad hwnnw wedi pylu. Mae prosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy yn ceisio ailennyn diddordeb yn y dreftadaeth ddiwylliannol hon drwy adfer presenoldeb ac arwyddoc芒d wystrys brodorol ym Mae Conwy.
Drwy raglen benodedig ac uchelgeisiol sy鈥檔 cynnwys ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd, addysg, a gwyddoniaeth dinasyddion - ynghyd 芒 gwella cynhwysiant - rydym yn ceisio ailgysylltu pobl 芒鈥檜 hamgylchedd morol a鈥檜 hanes arfordirol cyffredin, gan adeiladu ar lythrennedd morol. Drwy feithrin dealltwriaeth, chwilfrydedd, a stiwardiaeth, rydym yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o eiriolwyr morol a fydd yn helpu i adfer ac amddiffyn ein poblogaethau o wystrys brodorol.
Cymryd Rhan
Monitro Meithrinfeydd Wystrys
Mae ein meithrinfeydd wystrys wedi鈥檜 lleoli ym Marinas Conwy a Deganwy, ac maen nhw鈥檔 darparu amgylcheddau diogel a reolir, lle gall wystrys brodorol dyfu a rhyddhau larf芒u i鈥檙 dyfroedd o鈥檜 cwmpas. Mae鈥檙 meithrinfeydd hyn yn cefnogi adferiad poblogaethau o wystrys a gallant hefyd weithredu fel canolbwynt i wyddoniaeth gymunedol ac ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned.
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i鈥檔 helpu i fonitro鈥檙 safleoedd hyn. Fel gwyddonydd-ddinesydd, byddwch yn:
- Casglu data am iechyd a thwf wystrys
- Cofnodi鈥檙 rhywogaethau morol sy鈥檔 byw o amgylch y meithrinfeydd
- Helpu i fonitro amodau amgylcheddol fel tymheredd a halwynedd y d诺r
Nid oes angen profiad blaenorol 鈥 darperir hyfforddiant llawn, a chroesewir pobl o bob cefndir (18+ oed). Mae鈥檔 ffordd wych o ddysgu am fywyd morol lleol, cyfarfod pobl sy鈥檔 rhannu鈥檙 un diddordebau, a gwneud gwahaniaeth ymarferol drwy adfer riffiau wystrys.
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac ymuno 芒鈥檙 gr诺p o wirfoddolwyr.
Rhaglen Addysg
Mae ein Rhaglen Addysg Wystrys Gwyllt, sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chwricwlwm Cymru, wedi鈥檌 chynllunio er mwyn ysbrydoli myfyrwyr sy鈥檔 amrywio o ran oed o Gam Allweddol 2 i Addysg Uwch, gan gysylltu dysgwyr 芒 chadwraeth forol yn y byd go iawn.
P鈥檜n a ydych yn athro/athrawes, darlithydd, arweinydd gr诺p ieuenctid, neu fyfyriwr, mae ein rhaglen yn darparu profiadau dysgu ystyrlon sy鈥檔 cefnogi llythrennedd morol, ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth, a stiwardiaeth amgylcheddol.
- Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o wystrys brodorol a鈥檙 gwasanaethau ecosystem maen nhw鈥檔 eu darparu.
- Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o gynefinoedd morol yn y DU a鈥檙 amgylchedd morol gan arwain at fwy o lythrennedd morol.
- Myfyrwyr i gael mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o鈥檜 prosiect Wystrys Gwyllt lleol.
- Myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i ofalu am yr amgylchedd morol a dod yn stiwardiaid morol.
Mae鈥檙 rhaglen, sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chwricwlwm cenedlaethol Cymru, ac sydd ar gael yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg, yn cynnig ystod o weithgareddau di-d芒l a phrofiadau i ddod 芒 gwyddor eigion yn fyw:
- Saffari Wystrys 鈥 gweld wystrys brodorol yn agos yn ein systemau meithrinfeydd
- Gweithdai ystafell ddosbarth a gwasanaeth boreol 鈥 yn gysylltiedig 芒鈥檙 cwricwlwm ac ar gael wyneb yn wyneb neu鈥檔 ddigidol
- Cyfranogiad ymarferol 鈥 helpu i fonitro a gofalu am ein hwystrys fel rhan o鈥檔 prosiect adfer byw
- Cyfleoedd ar gyfer interniaeth ac ymchwil 鈥 i fyfyrwyr mewn coleg neu brifysgol
Ar gyfer archebion gr诺p neu i ddarganfod rhagor, cysylltwch 芒: wild.oysters@zsl.org neu eich swyddogion project lleol: rhianna.parry@bangor.ac.uk neu m.hayden-hughes@bangor.ac.uk
Cyfarfod y T卯m
Ein Partner
Ein Harianwyr
Mae鈥檙 prosiect #NNF2 hwn yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, sy鈥檔 cael ei gweithredu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyDigwyddiadau
Cysylltu 芒 Ni
Os hoffech fod yn rhan o ymdrechion adfer wystrys Bae Conwy, cysylltwch 芒 ni.