Beth Rydyn Ni鈥檔 Ei Wneud?
Project ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Chymdeithas S诺olegol Llundain (ZSL) yw #NNF3 Cysylltu Conwy. Mae鈥檙 prosiect, sy鈥檔 rhedeg rhwng mis Awst 2024 a mis Mai 2026, yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur (Rownd 3), a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Nod y project hwn yw asesu'r potensial yn y dyfodol i wneud gwaith adferiad ar raddfa morweddau yn Ardal Cadwraeth Arbennig y Fenai a Bae Conwy, ac o鈥檌 hamgylch.
Drwy gydweithio 芒 rheoleiddwyr amgylcheddol, partneriaethau arfordirol ac amrywiaeth o randdeiliaid, rydym yn mynd ati i adeiladu鈥檙 sylfeini ar gyfer cynllun adfer cynefinoedd morol hirdymor sydd o fudd i fioamrywiaeth a chymunedau arfordirol.
Ein Nodau a'n Gweithgareddau
Rydym yn gwella ein dealltwriaeth o bresenoldeb a dosbarthiad cynefinoedd morol allweddol yn lleol 鈥 morwellt, wystrys brodorol, morfeydd heli a chregyn gleision 鈥 ac yn nodi rhwystrau i'w hadferiad. Mae鈥檙 gweithgareddau鈥檔 cynnwys:
- Astudiaeth ddesg yn cydgrynhoi data presennol am gynefinoedd
- Diweddaru asesiadau o addasrwydd cynefinoedd
- Arolygon maes wedi'u targedu i wirio mapiau cynefinoedd ar lawr gwlad
- Arolygon o rywogaethau anfrodorol goresgynnol
- Gweithdy cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid ac ymarferwyr i edrych ar ehangu'r gwaith adfer
Rydym yn parhau i ddefnyddio鈥檙 gwaith adfer wystrys brodorol ym Mae Conwy fel astudiaeth achos i ddeall dichonoldeb ac effaith, gan archwilio'r potensial i ehangu'r gwaith adfer yn y Fenai ar yr un pryd. Mae鈥檙 gweithgareddau鈥檔 cynnwys:
- Monitro meithrinfeydd wystrys ac adferiad yn barhaus ym Mae Conwy
- Gwirio allbynnau鈥檙 gwaith modelu addasrwydd cynefinoedd wystrys ar lawr gwlad
- Nodi lleoliadau ar gyfer treialon adfer
- Astudiaeth ddichonoldeb ar oroesiad wystrys yn y Fenai
Nod Cysylltu Conwy yw cynnwys cymunedau arfordirol mewn adferiad morol. Drwy godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant a chynnig dysgu ymarferol, rydym yn adeiladu rhwydwaith o stiwardiaid m么r gwybodus. Mae鈥檙 gweithgareddau鈥檔 cynnwys:
- Cynnig cyfleoedd hyfforddi 芒 th芒l i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
- Darparu cyfleoedd gwyddoniaeth i ddinasyddion a datblygu dulliau monitro cost isel
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol i godi ymwybyddiaeth a chysylltu 芒 chymunedau
Gwirfoddoli Gyda Ni!
Monitro Meithrinfeydd Wystrys
Mae ein meithrinfeydd wystrys wedi鈥檜 lleoli ym Marinas Conwy a Deganwy, ac maen nhw鈥檔 darparu amgylcheddau diogel a reolir, lle gall wystrys brodorol dyfu a rhyddhau larf芒u i鈥檙 dyfroedd o鈥檜 cwmpas. Mae鈥檙 meithrinfeydd hyn yn cefnogi adferiad poblogaethau o wystrys a gallant hefyd weithredu fel canolbwynt i wyddoniaeth gymunedol ac ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned.
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i鈥檔 helpu i fonitro鈥檙 safleoedd hyn. Fel gwyddonydd-ddinesydd, byddwch yn:
- Casglu data am iechyd a thwf wystrys
- Cofnodi鈥檙 rhywogaethau morol sy鈥檔 byw o amgylch y meithrinfeydd
- Helpu i fonitro amodau amgylcheddol fel tymheredd a halwynedd y d诺r
Nid oes angen profiad blaenorol - darperir hyfforddiant llawn, a chroesewir pobl o bob cefndir (18+ oed). Mae鈥檔 ffordd wych o ddysgu am fywyd morol lleol, cyfarfod pobl sy鈥檔 rhannu鈥檙 un diddordebau, a gwneud gwahaniaeth ymarferol drwy adfer riffiau wystrys
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac ymuno 芒鈥檙 gr诺p o wirfoddolwyr.
Cyfarfod y T卯m
Ein Partner
Ein Harianwyr
Caiff #NNF3 Cysylltu Conwy ei ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur (Rownd 3), a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru.
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyDigwyddiadau
Cysylltu 芒 Ni
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan ym mhroject Cysylltu Conwy:
#NNF2: Dod ag wystrys gwyllt yn 么l i Fae Conwy 鈥 ein prosiect arall