Croeso gan Ddeon yr Ysgol
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn ysgol fusnes o fri sy鈥檔 rhoi pwyslais ar addysgu ac ymchwil. Rydym yn cynnig rhaglenni gradd ar draws ystod lawn o ddisgyblaethau academaidd o lefel israddedig ac 么l-raddedig hyd at lefel doethuriaeth.
Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygiadau polisi, at ddatblygiad eu disgyblaeth, a hyd yn oed at well dealltwriaeth o fusnes ei hun. Maen nhw鈥檔 academyddion o safon ryngwladol ac mae eu hymchwil yn llywio鈥檙 hyn y byddan nhw鈥檔 ei addysgu i chi, gan sicrhau y byddwch wedi cael eich paratoi鈥檔 llawn i lwyddo ym myd esblygol busnes byd-eang.
Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i wella鈥檆h cyflogadwyedd trwy roi cyfleoedd i chi ymgysylltu 芒 busnesau, ymgymryd 芒 lleoliadau gwaith ac interniaethau a chymryd rhan mewn sefyllfaoedd sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 byd go iawn. Byddwch hefyd yn elwa ar yr amrywiaeth eang o achrediadau sy鈥檔 cael eu cynnig fel rhan o鈥檔 rhaglenni.
Tra byddwch yma gyda ni, fe gewch gyfle i fireinio eich sgiliau technegol a鈥檆h sgiliau arwain. Mae busnesau modern yn chwilio am raddedigion sydd 芒 sgiliau technegol ac sy'n gwybod sut i gyfathrebu, dylanwadu a thrafod. Byddwch yn dysgu'r sgiliau hyn a llawer mwy yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Dyma eich gwahodd felly i ymuno 芒'r gymuned gyffrous a bywiog sydd i鈥檞 chael yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.
Yr Athro Andrew Thomas, Deon yr Ysgol