³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor

Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Archwilia'r Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn cymuned ddysgu fywiog a chefnogol. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr yn eu maes a chymwys yr hyn rwyt wedi ei ddysgu tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r creadigrwydd i lunio dy ddyfodol a chael effaith gadarnhaol ble bynnag y bydd dy uchelgeisiau yn dy arwain.

Ar y dudalen hon:

Ymuna â ni ar Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor
Dau fyfyriwr yn llyfrgell y brifysgol

Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau Croeso

Mae'r celfyddydau, diwylliant ac iaith wedi'u haddysgu ym Mhrifysgol Bangor ers ei sefydlu yn 1884. Heddiw mae'r ysgol yn parhau i gynnig addysgu o'r safon uchaf ochr yn ochr â chymuned glos a chefnogol o fyfyrwyr a staff addysgu.

Mae’r Brifysgol wedi’i lleoli rhwng y mynyddoedd a’r môr mewn tirwedd ddiwylliannol sydd wedi ysbrydoli gweithiau creadigol o chwedlau hynafol i awduron fel JRR Tolkien a Philip Pullman, a’r gwneuthurwr ffilmiau Danny Boyle sydd wedi ennill Oscar. Ar ôl 130 o flynyddoedd mae Prifysgol Bangor yn parhau i fod yn gyrchfan berffaith i'r rhai sydd am ryddhau eu creadigrwydd a thanio eu chwilfrydedd deallusol.

Astudiaethau Israddedig

Meysydd Pwnc Israddedig

Dyma'r meysydd pwnc israddedig sydd ar gael o fewn yr ysgol:

Astudiaethau Ôl-raddedig

Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dyma'r meysydd pwnc sydd yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig trwy ddysgu o fewn yr ysgol:

Meysydd Pwnc Ymchwil Ôl-raddedig

Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y meysydd pwnc canlynol o fewn yr ysgol:

Myfyrwyr yng Nghanolfan Addysg Grefyddol Prifysgol Bangor

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Mae'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn ganolfan newydd a deinamig a’r nod o weithio i sicrhau bod Addysg Grefyddol yn ei hystyr ehangaf, o ran astudio crefyddau amrywiol, athroniaethau, moeseg, gwerthoedd a bydolygon, yn cael ei diogelu. 

Wrth wraidd y Ganolfan, mae hyrwyddo addysg, annog parch at fydolygon a thraddodiadau gwahanol, a gwneud yr hyn sy’n bosib i geisio gofalu ein bod yn byw mewn cymdeithas gynhwysol.

Digwyddiadau

Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau , Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau , Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG