Rydym Ni'n Bobol Go Iawn
Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Ym Mangor rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Y tu ôl i bopeth a wnawn mae tîm o bobl go iawn sydd yma i wrando, rhoi arweiniad i chi a'ch cefnogi, os oes gennych gwestiwn, rydym wir eisiau i chi gysylltu â ni.
Gallwch gysylltu â'n timau cyfeillgar derbyniadau a phynciau drwy e-bostio neu ffonio, a byddwn yn ymateb yn gyflym. Mae croeso i rieni, gofalwyr a chefnogwyr gysylltu â ni hefyd.
Ydi’n well gennych chi edrych ar bethau yn eich amser eich hun? Mae gennym hefyd adran Cwestiynau Cyffredin glir a chyfredol lle gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin.
Sut bynnag y byddwch chi'n dewis cysylltu, mi gewch chi hyd i bobl go iawn ym Mangor sydd wir eisiau eich helpu chi i wneud penderfyniadau hyderus am eich dyfodol. Siaradwch efo ni nawr!
sens@bangor.ac.uk +44 (0) 1248 382400
Gwylio - Gardd Fotaneg Treborth
Trawsgrifiad fideo: Gardd Fotaneg Treborth
Yng Ngardd Fotaneg Treborth, ychydig funudau o ganol Bangor, mae rhywbeth eithaf prin.
Mae hwn yn labordy byw, lle mae addysgu, ymchwil a chymuned yn dwad at ei gilydd mewn un lleoliad rhyfeddol.
Mae’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae coetir arfordirol Treborth yn un o'r cynefinoedd mwyaf nodedig yng Nghymru.
Mae'n safle lle mae myfyrwyr yn dysgu am ecosystemau trwy gamu i mewn iddynt.
Bioleg, cadwraeth, Gwyddorau amgylcheddol, Coedwigaeth, a hyd yn oed cysylltiadau gyda meddygaeth, mae Treborth yn cefnogi addysgu ar draws ystod eang o bynciau.
Yma, mae dysgu yn ymarferol, sef ‘hands on’
Mae hefyd yn gyfleuster ymchwil gweithredol, sy'n cefnogi gwaith sy'n bwysig yn lleol ac yn fyd-eang.
Y tu mewn i'r tai gwydr trofannol, dach chi’n medru gweld rhywogaethau o bedwar ban y byd, tra y tu allan, mae casgliadau arbenigol yn cynnwys gardd perlysiau sy'n cael ei datblygu mewn cydweithrediad efo addysgu meddygol Prifysgol Bangor.
Mae'r ardd yn gynnwys 45 erw, yn llawn casgliadau a chynefinoedd amrywiol.
Ar draws y DU, mond chydig iawn o brifysgolion sy gan gyfleuster fel hyn ac mae Treborth yn un o ddim ond llond llaw yng Nghymru.
Y peth sy'n neud i Dreborth bod yn arbennig ydy'r bobl. (un o bethau?)
Mae cymuned brwd o wirfoddolwyr, cefnogwyr lleol a myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr. Mae profiad yn cael ei rannu rhwng cenedlaethau yma, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhannu pob dydd.
Mae yna bob amser rhywbeth yn digwydd yn Nhreborth. Gwerthu planhigion tymhorol, prosiectau cadwraeth newydd ac o bryd i'w gilydd... gwartheg yn crwydro trwy'r tir cyfagos.
Dan arweiniad arbenigwyr angerddol a chefnogaeth gwirfoddolwyr ymroddedig, mae Treborth yn parhau i dyfu fel canolfan ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.
I fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, nid cyfleuster yn unig yw hwn.
Cyfle i addysgu mewn ffordd gwahanol.
Cyfle i ymchwilio yn y byd go iawn.
Cyfle i fod yn rhan o rywbeth sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Prifysgol Bangor, Yr amgylchedd yw eich addysg yma.