Rhwymedigaethau'r Brifysgol
Mae staff a mentoriaid y Neuaddau yma i'ch helpu I gael y profiad gorau posib tra byddwch yn byw yn eich neuadd breswyl. Bydd eich ystafell yn lân ac yn barod I chi ymgartrefu ynddi pan fyddwch yn cyrraedd. Mae staff diogelwch a mentoriaid ar ddyletswydd bob awr o'r dydd a nos i helpu i ddarparu amgylchedd diogel a gofalgar i chi. Byddwn yn parchu eich preifatrwydd ac yn sicrhau eich bod yn cael y cyfle gorau posib i astudio a mwynhau eich bywyd cymdeithasol yn eich neuadd.
Rydym yn addo darparu'r holl wasanaethau a nodir yn yr contract meddiannaeth/Cytundeb Trwydded ac os bydd problem gydag unrhyw un o'r gwasanaethau hynny, gwnawn ein gorau i'w datrys mor gyflym â phosib a rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd. Ac eithrio mewn achosion brys, byddwn yn rhoi gymaint o rybudd i chi â phosib os bydd angen gwneud gwaith i ddatrys y broblem, gydag o leiaf 24 awr o rybudd.
Mae'r Brifysgol wedi tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU sydd wedi ei lunio i amddiffyn eich hawl i gael llety diogel o ansawdd da, lle bynnag yr ydych yn astudio ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael y defnydd gorau posib o'ch amser yn byw mewn llety Prifysgol neu goleg.
Contractau Meddiannaeth
Trwydded i Feddiannu i’r Rhai Dan 18 Oed
Hanfodol
Cliciwch ar y dolenni isod i wybod mwy am ein neuaddau ac i lawrlwytho ein taflen wybodaeth am y neuaddau:
- Cod Ymddygiad Preswyl
- Polisi Addasrwydd i Breswylio / Siart Llif Addasrwydd i Breswylio
- Llawlyfr Neuaddau
- Sut i ddefnyddio offer y gegin
- Rheolau Cyffredinol
- Yswiriant
- Rhyddhad Cynnar o'r Contract
- Polisi a Gweithdrefnau: Myfyrwyr dan 18 oed yn y Brifysgol
Mae eich Cytundeb i fyw yn Llety'r Brifysgol yn gyfreithiol-rwym
Unwaith y bydd y Myfyriwr wedi derbyn eu Cynnig, bydd y Myfyriwr yn rhwym drwy gontract i dalu'r Rhent am y Cyfnod Preswylio llawn. Nid oes cyfnod ailfeddwl neu hawl i ganslo. Bydd y Myfyriwr wedi ei rwymo i'r contract pan fydd y Myfyriwr yn derbyn eu Cynnig.
Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r Brifysgol, darllenwch ein dogfen Rhyddhad Cynnar o'r Contract.
Mwy o wybodaeth
Gall y tudalennau canlynol hefyd fod o ddiddordeb i chi:
- Mwy am y Swyddfa Neuaddau
- Mentoriaid
- Campws Byw
- Oriau agor golchdai
- Oriau agor ystafelloedd cyffredin
- Amseroedd Ymateb Cynnal a Chadw
- Taliadau Difrod
- Talu am neuaddau
- Proses Gofal Cwsmer
- Parcio a Phost
- Polisi a Gweithdrefn Rheoli Credyd y Neuaddau Preswyl
- Polisi Addasrwydd i Breswylio / Siart Llif Addasrwydd i Breswylio
- Trefn Gwrandawiad Disgyblu mewn Neuaddau
- Rhyddhad Cynnar o'r Contract
- Yswiriant
- Geirdaon Llety