Yn 么l Hammad, a gafodd ei eni ym Mhakistan ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd: 鈥淒echreuais i fy siwrnai o ddysgu Cymraeg yn 2023. Roedd nifer o resymau gen i i ddysgu'r iaith. Mae fy mhlant yn mynd i'r ysgol Gymraeg, ac mae sawl ffrind gen i sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg ac roeddwn i'n awyddus i ddarllen ei gwaith.鈥
Fel awdur uchel ei barch ei hun, ac amlieithydd, mae Hammad wedi mynd ati i gyhoeddi鈥檙 nofel, Four Dervishes (Llyfrau Seren 2021), a gweithiau yn yr iaith Gymraeg, Perseg, Urdu ac Arabeg.
Roedd dysgu am lenyddiaeth Cymraeg wedi ei ysbrydoli i astudio鈥檙 iaith yn ddyfnach ac i ymgeisio am Ysgoloriaeth Ymchwil 鈥楥ydraddoldeb ac Amrywiaeth鈥 y Coleg. Mae鈥檙 ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i grwpiau o pobl sydd wedi eu tangynrychioli mewn addysg uwch ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg gyflawni doethuriaeth dan nawdd y Coleg.
Meddai Hammad: 鈥淒wi wedi darganfod nifer o awduron a beirdd Cymraeg gwych na fyddwn i wedi gwybod amdanyn nhw oni bai fy mod i wedi dysgu'r iaith. Dwi'n hoffi sut mae diwylliant Cymru wedi'i gysylltu 芒'r iaith.鈥
Wrth ddarllen cerdd arbennig gan Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri, sylweddolais i sut mae tebygrwydd trawiadol rhwng traddodiad marwnad Cymraeg ac ieithoedd Perseg a Wrdw.
鈥淒wi'n hapus iawn i dderbyn yr ysgoloriaeth yma gan y Coleg Cymraeg ac yn gyffrous am ddatblygu fy ymchwil a'm traethawd ymchwil yn y blynyddoedd nesaf.鈥
Yn ogystal 芒 dechrau ar ei daith PhD eleni, mae Hammad wedi ymuno a Chynllun Sbarduno鈥檙 Coleg fel mentor i gefnogi siaradwyr Cymraeg rhwng 16-19 oed Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd Hammad: 鈥淒wi鈥檔 gobeithio y gallaf gyfrannu a gwneud gwahaniaeth yn y maes llenyddol Cymraeg trwy fy ymchwil, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at roi cefnogaeth ac anogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol fel mentor ar y Cynllun Sbarduno.鈥
Am wybodaeth bellach ar y Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil 鈥楥ydraddoldeb ac Amrywiaeth鈥 a Chynllun Sbarduno ewch i wefan y ; ac ewch i sianel You Tube y i wylio fideo i glywed sut mae myfyrwyr wedi elwa o鈥檙 ddau gynllun.