³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Llyfrau Y Gyfraith

Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru

Archwilia'r gyfraith, cyfiawnder a chymdeithas trwy addysgu arbenigol, ymchwil sy'n cael effaith a phrofiad byd go iawn yng Ngogledd Cymru. Cei cyfle i fod yn rhan o gymuned gefnogol a chynhwysol lle cei di ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i wneud gwahaniaeth yn dy yrfa ac i'r dyfodol.

Ar y dudalen hon:

Ymuna â ni ar Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor
Image of Hayley Roberts

Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru CROESO gan Bennaeth yr Ysgol

Mae'n bleser dy groesawu i Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru.

Mae'r Ysgol yn dwyn ynghyd y Gyfraith, Troseddeg, Plismona a Chymdeithaseg i dy helpu i ddeall y berthynas rhwng y gyfraith, cyfiawnder a chymdeithas.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr y mae eu hymchwil yn llywio polisïau ac arferion proffesiynol mewn meysydd megis hawliau dynol, diogelwch, mynediad at gyfiawnder a thechnolegau newydd. Drwy'r dull hwn, byddwch yn ymgysylltu â datblygiadau cyfoes ym meysydd y gyfraith a chyfiawnder, gan ddatblygu'r hyder i feddwl yn feirniadol, dadansoddi materion cymhleth a ffurfio eich safbwyntiau eich hun.

Dyma gyfnod cyffrous i fod yn rhan o Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru. Cymera gip ar ein rhaglenni israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil, i weld y cyfleoedd sydd ar gael i dy helpu i gyflawni dy uchelgais.

Dr Hayley Roberts, Pennaeth yr Ysgol

Dod o hyd i gwrs yn Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru

Meysydd Pwnc Israddedig

Dyma'r meysydd pwnc israddedig sydd ar gael o fewn yr ysgol:

Archwilia ein meysydd pwnc

Dyma'r meysydd pwnc israddedig sydd ar gael o fewn yr ysgol:

Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dyma'r meysydd pwnc sydd yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig trwy ddysgu o fewn yr ysgol:

ol-raddedig

Dyma'r meysydd pwnc sydd yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig trwy ddysgu o fewn yr ysgol:

Meysydd Pwnc Ymchwil Ôl-raddedig

Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y meysydd pwnc canlynol o fewn yr ysgol:

Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y meysydd pwnc canlynol o fewn yr ysgol:

Llun o lyfr a cwpan o de ar fwrdd gwyn

Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC)

Mae'r Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC)  yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd (a staff a myfyrwyr). Rhoddir yr holl gyngor gan fyfyrwyr y gyfraith sydd ar eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor, a hynny dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Nod y Clinig yw cyfuno’r angen am fynediad at gyfiawnder yn y fro, parhau i feithrin y berthynas rhwng y Brifysgol â’r gymuned, a darparu addysg gyfreithiol glinigol eithriadol i’n myfyrwyr.

Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG