Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Mae blwyddyn academaidd arall yn dod i ben, gyda thraethodau hir a gwaith cwrs terfynol yn cael eu cyflwyno ac arholiadau'n cael eu cynnal ar draws y campws.
Mae myfyrwyr yn edrych ymlaen at gynnal eu Dawns Haf ym Mhrif Adeilad y Brifysgol y penwythnos hwn. Mae'r digwyddiad bellach yn barti dydd a nos estynedig gyda thri llwyfan o gerddoriaeth fyw, ffair, casino a gwerthwyr bwyd stryd. Tybed pa mor wahanol yw hyn i'ch dyddiau olaf fel myfyriwr鈥 Byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon. I鈥檞 rhannu e-bostiwch alumni@bangor.ac.uk
P'un a oeddech chi mewn hwyliau llawen yn y Ddawns Haf yn dathlu gyda'ch ffrindiau neu'n gwneud y gorau o allu ymlacio a mwynhau'r byd o鈥檆h cwmpas, rwy'n gobeithio bod gennych chi atgofion gwych o'ch dyddiau olaf yn y Brifysgol i'w trysori."
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn cynhadledd genedlaethol ym maes gofal cychwynnol
Mae Cronfa Bangor wedi galluogi myfyrwyr fferylliaeth sy'n perfformio'n dda yn gynnar yn eu cwrs yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn profiad datblygu academaidd a phroffesiynol sy鈥檔 cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae hyn yn fodd o wobrwyo rhagoriaeth a meithrin hyder yn gynnar yn eu hastudiaethau. Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Cafodd chwech o fyfyrwyr, tri o'r Flwyddyn Sylfaen a thri o Flwyddyn 1, eu dewis i gymryd rhan mewn ymweliad academaidd a diwylliannol i Lundain dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Cyn-fyfyrwraig wedi'i chydnabod yn un o鈥檙 50 ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus gorau
Llongyfarchiadau i Jane Griffin sy鈥檔 aelod o Fwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, (ac a raddiodd mewn Ffrangeg ym 1993), am gael ei chydnabod yn un o'r 50 ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol gorau yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn 么l yn yr .
Yn dilyn gyrfa o ddeng mlynedd ar hugain mewn newyddiaduraeth, cyfathrebu corfforaethol, cysylltiadau cyhoeddus busnes-i-fusnes a chyfathrebu mewn achosion o argyfwng, sefydlodd Jane ei chwmni Positive Story PR Consultancy ym mis Chwefror 2021.
Mae Positive Story PR Consultancy yn ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus busnes-i-fusnes arbenigol sy'n helpu cleientiaid ym maes peirianneg, technoleg ddiwydiannol a seilwaith i ennill busnes a buddsoddiad newydd trwy gysylltiadau cyhoeddus strategol. Mae Jane yn Ymarferydd Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig, a hefyd yn darparu hyfforddiant, gweithdai a chyrsiau sy'n dangos i dimau sut i adnabod newyddion, ymgysylltu 芒 newyddiadurwyr a defnyddio Cysylltiadau Cyhoeddus yn strategol i gefnogi twf busnes.
Rydym ni mor falch bod gwaith Jane wedi cael ei gydnabod gan wobrau yr Independent Impact 50. Da iawn Jane!
Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar Astudiaethau Pellach
Oeddech chi'n gwybod bod Prifysgol Bangor yn cynnig gostyngiadau i gyn-fyfyrwyr ddilyn astudiaethau pellach?
Gall cyn-fyfyrwyr o鈥檙 Deyrnas Unedig sydd wedi graddio o raglen israddedig ym Mhrifysgol Bangor dderbyn gostyngiad o 20% ar un o'n graddau Meistr hyfforddedig cymwys os ydynt yn talu eu ffioedd eu hunain.
Gall cyn-fyfyrwyr rhyngwladol fanteisio ar ostyngiad ffioedd dysgu o 拢1,000 ar gyfer unrhyw raglen radd hefyd, a gynigir yn ogystal i鈥檞 teulu agos (priod/brodyr a chwiorydd/plant/wyrion ac wyresau).
Cliciwch ar y dolenni uchod am fwy o fanylion. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn parhau 芒'ch taith gyda ni!
Gwaddol Dr Perrin: Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Arweinwyr Amgylcheddol
Mae pedwar project ymchwil amgylcheddol arloesol ar y gweill ar hyn o bryd ac yn llunio dyfodol ein planed. Mae pob un yn gam ymlaen yn y gwaith o ddatblygu gwybodaeth wyddonol wrth arfogi ein myfyrwyr a'n hymchwilwyr 芒'r sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i ddod yn arweinwyr yng ngwyddorau鈥檙 amgylchedd. Mae'r daith o leoliadau israddedig i ymchwil arloesol yn dangos effaith haelioni rhoddwyr wrth feithrin doniau a sbarduno arloesedd.
Bu鈥檙 cynnydd hwn yn bosibl diolch i waddol rhyfeddol ein cyn-fyfyriwr, Dr Robert Perrin (Soil Science, 1948), y mae ei angerdd dros ddeall a diogelu'r byd naturiol yn parhau trwy ei rodd i ymchwil amgylcheddol. Mae ei ymrwymiad yn parhau i ysbrydoli a grymuso ein hymchwilwyr, gan sicrhau bod ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn parhau.
Tri academydd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae wedi cyhoeddi bod tri academydd o Brifysgol Bangor ymhlith y 44 Cymrodyr newydd a etholwyd i'r Gymdeithas, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.
Llongyfarchiadau i Gymrodyr newydd o鈥檙 Brifysgol, Simon Creer, Athro mewn Ecoleg Foleciwlaidd, Judy Hutchings, Athro mewn Seicoleg a Dr Iwan Llewelyn -Jones, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformio Cerddorol.
Pedair ymchwilydd wedi'u dewis ar gyfer rhaglen fawreddog Crwsibl Cymru
Mae pedair ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi sicrhau eu lle ar Crwsibl Cymru 2026, sef rhaglen sydd wedi ennill gwobrau a gynlluniwyd i feithrin datblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ymhlith darpar arweinwyr ymchwil yng Nghymru.
DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR
Dwy ffilm o Ogledd Cymru ar y sgr卯n fawr ym Montio
Am y tro cyntaf, bydd dwy ffilm wreiddiol o Ogledd Cymru yn cael eu dangos yn Sinema Pontio yn yr un mis! Yn ystod mis Mehefin, bydd Madfabulous鈥攕y鈥檔 seiliedig ar hanes y pumed Marcwis o F么n鈥 ac Effi o Blaenau 鈥 addasiad o ddrama Gary Owen, Iphigenia in Splott, yn cal eu ddangos.
Callum Scott Howells, Ruby Stokes a Rupert Everett sy鈥檔 serennu yng nghampwaith y cyfarwyddwr Celyn Jones sy鈥檔 seiliedig ar Pumed Marcws M么n, ac wedi鈥檌 ffilmio yn Lleol yma yng Ngogledd Cymru ar st芒d T欧 Newydd a Stad y Penrhyn. Mae鈥檙 ffilm yn dilyn bywyd Henry Paget sy鈥檔 gwario cyfoeth ei deulu drwy鈥檌 fywyd cymdeithasol a鈥檌 ffasiwn afradlon a moethus cyn ei farwolaeth yn naw ar hugain oed.
Yna, edrychwn ymlaen am ffilm iaith Gymraeg (gydag is-deitlau Saesneg), yn addasiad sinematig o ddrama Gary Owen Iphigenia in Splott, gan Marc Evans wedi鈥檌 osod yng nghogledd Cymru. Yn serennu Leisa Gwenllian sy鈥檔 rhoi perfformiad pwerus fel Effi, sy鈥檔 ysgu am gael dianc o鈥檌 thref enedigol a daw llygedyn o obaith pan fydd hi鈥檔 cwrdd 芒 Lee, milwr wedi鈥檌 anafu.
Fel rhan o鈥檙 dangosiadau mae dwy rhagddangosiad arbennig yn Sinema Pontio yng nghwmni鈥檙 cyfarwyddwyr. Ar Nos Fercher 3 Mehefin, bydd Celyn Jones yn cyflwyno Madfabulous mewn rhagddangosiad arbennig sydd bellach wedi gwerthu鈥檔 gyfangwbwl, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Yna ar nos Iau 18 Mehefin, mewn partneriaeth gyda Met Film Distribution, bydd Marc Evans yn cynnal sesiwn holi ac ateb wedi rhagddangosiad o Effi o Blaenau.
Madfabulous: Dydd Gwener 5 - Dydd Iau 18 Mehefin
TOCYNNAU:
Effi o Blaenau: Nos Iau 18 Mehefin - Dydd Iau 2 Gorffennaf
TOCYNNAU:
Diwrnod Agored Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Bydd yr amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn, 13 Mehefin, o 10am i 4pm, gan gynnig gweithgareddau am ddim sy'n addas i鈥檙 teulu cyfan.
Mae Amgueddfa Byd Natur Brambell yn Adeilad Brambell yn arddangos sbesimenau o gasgliadau s诺oleg a daeareg y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn, entomoleg, molysgiaid, sbesimenau wedi'u cadwoli mewn jariau hylif, ffosiliau a mwynau.
Mae'r casgliadau hyn yn rhan o Gasgliadau Prifysgol Bangor ac wedi cyflawni achrediad Amgueddfeydd, sef y safon i amgueddfeydd. Caiff y casgliad s诺oleg hefyd ei ddefnyddio at ddibenion addysgu ac mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli'r brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i archwilio Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol a dysgu mwy am y sbesimenau sydd ar ddangos. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr siarad 芒 myfyrwyr a fydd ar gael i ateb cwestiynau.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr a sicrhau bod yr arddangosfeydd yn weladwy, nifer penodol o bobl fydd yn cael bod yn bresennol bob awr. Bydd angen archebu slot ymlaen llaw. Archebwch slot fesul awr ar ein wefan os gwelwch yn dda. Dim ond am yr amser rydych wedi'i archebu y bydd eich tocyn yn ddilys, a bydd pob ymweliad yn gyfyngedig i 45 munud.
Aduniad i gyn-fyfyrwyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor ar ei ffordd i Lantwd, Sir Benfro, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026, o ddydd Sadwrn 1 Awst tan ddydd Sadwrn 8 Awst.
Cynhelir ein haduniad blynyddol o gyn-fyfyrwyr ar stondin Prifysgol Bangor 1.30 - 2.30pm ar ddydd Mercher, 5 Awst 2026. Byddwch yn cael eich croesawu gan Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol a fydd digon o amser i ddal i fyny hefo鈥檆h cyd cyn-fyfyrwyr a staff.
Coedwigaeth ym Mangor yn y Sioe Frenhinol Cymru
Mae Coedwigaeth ym Mangor yn falch iawn o'ch gwahodd i ymuno 芒 ni ar gyfer yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Builth Wells, ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2026, 12.30pm 鈥 1.00pm.
Mae ein ffrindiau yn Confor (Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig) wedi cynnig yn garedig gynnal ein cyfarfod cyntaf ar eu stondin yn Sioe Frenhinol Cymru a byddem yn falch iawn pe gallech ymuno 芒 ni. Mae鈥檙 digwyddiad lansio am ddim (ac eithrio mynediad i'r Sioe) ac mae rhaglen o sgyrsiau wedi'i threfnu gyda digon o amser i sgwrsio 芒'ch gilydd a staff a myfyrwyr y Brifysgol dros luniaeth wedyn.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb
Darlith Coffa Jack Darbyshire - Cadwch y Dyddiad
Cynhelir Darlith Coffa Jack Darbyshire ar 8 Medi 2026 ac mae croeso I bawb.
Sefydlodd y diweddar Athro Jack Darbyshire yr Adran Oceanograffeg Ffisegol ym Mangor yn y 1960au ac mae'r ddarlith hon a gynhelir yn ei enw yn cydnabod y cyfraniad mawr a wnaeth i'r Brifysgol.
Bydd Dr Iestyn Woolway o鈥檙 Ysgol Gwyddorau'r Eigion, sydd wedi ei gydnabod yn fyd-eang am ei ymchwil ar effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd a systemau ecolegol d诺r croyw, yn arwain y ddarlith.
Anogwn ni chi i gadw'r dyddiad hwn, gyda manylion pellach i ddilyn.
Cyngherddau Adran Cerddoriaeth 2026/27 - Cadwch y dyddiadau
Dydd Sadwrn, 21 Tachwedd 2026 鈥 8.00pm (Neuadd Prichard-Jones)
路 The Planets 鈥 Holst
Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2026 鈥 3.30pm (Neuadd Prichard-Jones)
路 Karelia Suite 鈥 Sibelius
路 The Snow Maiden Suite 鈥 Rimsky-Korsakov
路 Excerpts from the Nutcracker Suite - Tchaikovsky
路 Symphony No.1 鈥榃inter Dreams鈥 鈥 Tchaikovsky
Dydd Sul, 7 Mawrth 2027 鈥 7.00pm (Neuadd Prichard-Jones)
路 Fantasia on Welsh Nursery Tunes 鈥 Grace Williams
路 鈥淚ls m鈥檕nt assez opprime des ma jeunesse鈥 鈥 Lili Boulanger
路 鈥淒u fond de l鈥檃bime鈥 鈥 Lili Boulanger
路 A Gaelic Symphony 鈥 Amy Beach
Dydd Sadwrn, 17 Ebrill 2027 鈥 7.30pm (Pontio)
路 Egmont Overture - Beethoven
路 Piano Concerto 鈥 Robert Schumann
路 Symphony No.8 鈥淯nfinished鈥 - Schubert
Cyfle i Gyfrannu at Waith Ymchwil 鈥 Astudiaeth Byw gydag Ansicrwydd
Ydych chi'n 18 oed neu'n h欧n, yn byw yn y Deyrnas Unedig, ac wedi dechrau gweithio, astudio neu hyfforddi ar 么l 2020? Os felly, byddem yn hynod falch o glywed gennych.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Cumbria yn cynnal astudiaeth a ariennir gan yr Academi Brydeinig sy'n archwilio sut mae oedolion ifanc yn meddwl am waith, gyrfaoedd a deallusrwydd artiffisial mewn cyflogaeth - ac mae eich llais yn bwysig.
Beth fydd hyn yn ei olygu? Un drafodaeth ar-lein drwy Microsoft Teams 鈥 tua 60-90 munud. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol a chyfrinachol a chaiff unrhyw wybodaeth yn eich ymatebion sy鈥檔 datgelu pwy ydych chi ei dileu. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol ac mae cymeradwyaeth foesegol lawn wedi'i rhoi. Bydd pawb sy鈥檔 cymryd rhan yn cael taleb Amazon gwerth 拢20 fel diolch.
neu cysylltwch 芒 Dr Felix Shi, Darlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, i wybod mwy.
Cyrsiau byr a hyfforddiant Datblygu Proffesiynol Parhaus ym Mangor
Os ydych chi鈥檔 ystyried datblygu eich sgiliau proffesiynol, dychwelyd i fyd addysg, archwilio cyfeiriad newydd, neu ddysgu er mwyn y pleser o ddysgu, gall Prifysgol Bangor eich cefnogi gyda dulliau hyblyg o ddysgu - lle bynnag yr ydych ar eich taith.
Mae ein cyrsiau byr, ein hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), a鈥檔 micro-gymwysterau wedi鈥檜 cynllunio i ddiwallu amrywiaeth o nodau, diddordebau a mannau cychwyn ar draws ystod eang o bynciau. Maent yn ffitio o amgylch gwaith a bywyd, gan ei gwneud hi鈥檔 haws i chi ddatblygu ar eich cyflymdra eich hun. Mae llawer ohonynt yn cael eu haddysgu ar Lefel 7 (lefel Meistr), gan gynnig cyfle rhagorol i symud ymlaen yn broffesiynol neu gymryd eich cam cyntaf tuag at astudiaethau 么l-raddedig.
Beth bynnag eich nod, gall cyfleoedd dysgu hyblyg Bangor eich helpu i archwilio diddordebau newydd, magu hyder, ac ehangu eich gorwelion - yn bersonol ac yn broffesiynol.
I weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i鈥檔 tudalen gwe cyrsiau byr neu anfonwch e-bost at: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.
Gwyddonwyr cadwraeth yn ymgymryd 芒 phrosiect i adfer rhywogaethau o wystrys brodorol sydd ar fin ddiflannu'r llwyr
Mae gwyddonwyr cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor a (Cymdeithas S诺olegol Llundain) wedi cwblhau gwaith ar brosiect uchelgeisiol i ddod 芒 rhywogaethau o wystrys sy鈥檔 frodorol i鈥檙 DU yn 么l a鈥檜 hatal rhag diflannu鈥檔 llwyr.
Dyma鈥檙 cynllun cyntaf o鈥檙 fath yng Ngogledd Cymru. Mae鈥檙 t卯m dynodedig wedi adfer cynefin wystrys brodorol ym Mae Conwy, gan ddarparu cartref i 2,000 o wystrys cyffredin, a oedd unwaith yn rhan fawr o ddiwydiant pysgota Cymru i gefnogi cymunedau arfordirol. Mae鈥檙 gwaith wedi cael ei gefnogi gan weithgor o aelodau o'r gymuned leol.
Cwmni deilliedig Prifysgol Bangor yn sicrhau buddsoddiad i ddatblygu triniaethau canser arloesol
Mae Awen Oncology, cwmni biotechnoleg deillio o Brifysgol Bangor sydd wedi鈥檌 leoli ym M-SParc, wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol o saith ffigur i gyflymu datblygiad ei driniaethau canser cenhedlaeth nesaf. Bydd y buddsoddiad yn galluogi鈥檙 cwmni i symud ymlaen 芒 cherrig milltir gwyddonol allweddol, gan ddod 芒鈥檌 raglen therapiwtig flaenllaw yn nes at ddatblygiad clinigol, yn ogystal 芒 chefnogi creu swyddi newydd gwerth uchel yng Nghymru.
Sefydlwyd Awen Oncology ar sail ymchwil gydweithredol ym Mhrifysgol Bangor, gyda鈥檙 cwmni鈥檔 deillio o waith ymchwil a gynhaliwyd yn Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin y Brifysgol.
Herio mythiau a chodi hyder i weithio drwy'r Gymraeg yng Ngogledd Cymru
Dros y chwe mis diwethaf mae project Herio Mythau, wedi dod 芒 sefydliadau a chymunedau ar draws y gogledd ynghyd i herio camsyniadau am ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y gwaith.
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y sefydliadau cyhoeddus sy鈥檔 rhan o鈥檙 project hwn, sy鈥檔 cael ei arwain gan gan Is-Gr诺p Iaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarth y gogledd. Dros y misoedd nesa鈥 bydd adnoddau yn pwysleisio gwerth defnyddio Cymraeg yn y gwaith a鈥檙 croeso sydd i sgiliau ar bob lefel yn cael eu rhannu gan sefydliadau wrth recriwtio staff ac wrth gefnogi staff yn eu swyddi.