Seicoleg ym Mangor?
Dy ddyfodol ar waith
Ym Mangor, mae gwyddoniaeth seicoleg yn dod yn fyw. Byddi di鈥檔 dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw sy鈥檔 trawsnewid y ffordd rydyn ni鈥檔 deall ymennydd, ymddygiad ac emosiynau. O ddadansoddi ymennydd dynol i redeg marathon neu wynebu ymosodiad gan somb茂aid 鈥� mae鈥檙 profiadau鈥檔 amrywiol, ac yn ysbrydoli.
Mae 79% o鈥檔 hymchwil naill ai ymhlith y gorau yn y byd neu鈥檔 rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021). Mae鈥檙 adran wedi bod yn arloesi ers 1963 鈥� un o鈥檙 hynaf yn y DU 鈥� ac mae鈥檔 gartref i labordai arbenigol gan gynnwys sganiwr MRI, cyfleusterau EEG, TMS a labordy anatomeg ymennydd.
Ond mae seicoleg ym Mangor yn fwy na gwyddoniaeth 鈥� mae鈥檔 brofiad. Byddi di鈥檔 cael cymorth bugeiliol bob dydd gan diwtor penodol, sesiynau sgiliau ac ystadegau, a rhaglen iechyd meddwl wedi鈥檌 chynllunio gan seicolegwyr. Rydyn ni鈥檔 dy gefnogi di i dyfu鈥檔 academaidd ac yn bersonol.
Mae鈥檙 gymuned yn fywiog ac amlieithog, gyda myfyrwyr a staff o bob cwr o鈥檙 byd 鈥� ac os wyt ti鈥檔 siarad Cymraeg, mae dosbarthiadau ar gael yn dy iaith di. Rydyn ni鈥檔 falch o鈥檔 hunaniaeth Gymreig ac yn cynnig amgylchedd croesawgar lle mae pawb yn teimlo鈥檔 gartrefol.
Mae ein cyrsiau鈥檔 cynnig cyfuniad unigryw o amrywiaeth, ansawdd a phrofiad dysgu 鈥� ac mae鈥檙 cyfan yn digwydd mewn adran sy鈥檔 llawn egni, arloesedd a chynhesrwydd cymunedol.
Croeso i Ysgol Seicoleg Bangor. Dy ddyfodol ar waith.